Cyngor Sir Fynwy yn cynnal Cynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth
Mynychodd 60 o ddisgyblion o Gynllun Academi Arweinyddiaeth Cyngor Sir Fynwy Gynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ar ddydd Gwener, 8fed Mawrth.
Derbyniodd y llysgenhadon ifanc, a ddaeth o’r pedair ysgol uwchradd yn y sir, hyfforddiant arweinyddiaeth a sgyrsiau ysbrydoledig i’w helpu gyda’u gwaith gwirfoddoli yn eu hysgolion a’u cymunedau.
Buont yn cymryd rhan mewn gweithdai i ddatblygu eu sgiliau ymhellach a chawsant gyfle i rwydweithio â llysgenhadon eraill a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Cynhaliodd partneriaid amrywiol o’r sector weithdai, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, a gyflwynodd weithdy ar ‘Rôl yr Arweinydd Ifanc’ – gyda Gemau Stryd yn cyflwyno sesiwn ar ‘Llais Ieuenctid ac Ymgynghori’. Nod y rhain oedd ymrymuso’r llysgenhadon ifanc i weithio’n agos gyda’u cyfoedion a helpu i lunio rhaglenni gweithgareddau corfforol.
Rhannodd Amber Stamp Dunstan o MonLife ei phrofiad o ymuno â’r llwybr arweinyddiaeth a dod yn aelod llawn o staff tra hefyd yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru. Cymerodd y llysgenhadon ifanc ran hefyd mewn dadl yn dilyn sesiwn ar gyfathrebu. O dan arweiniad Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy, rhoddodd hyn gyfle i’r bobl ifanc rannu eu barn ar y rhaglen arweinyddiaeth a sut y gallwn barhau i’w gwella wrth symud ymlaen.
Roedd cynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn cyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. I nodi’r achlysur, siaradodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, am ei phrofiadau drwy gydol ei gyrfa ddisglair i nodi’r achlysur.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae gallu dod â’n llysgenhadon ifanc ynghyd yn Neuadd y Sir yn wych. Bydd clywed a gweld pawb yn ymgysylltu â’i gilydd a dysgu o brofiadau gwahanol yn caniatáu i’r bobl ifanc datblygu eu sgiliau arwain ymhellach. Roedd clywed gan Amber a’r Prif Gwnstabl Pam Kelly ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ysbrydoliaeth. Diolch am rannu eich profiadau gyda’r llysgenhadon ifanc.”
I ddysgu mwy am yr Academi Arweinyddiaeth neu i ddarganfod sut y gallwch chi neu’ch plant gymryd rhan, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/
This post is also available in: English