Cyfleusterau chwaraeon newydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed
Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy agoriad swyddogol o gyrtiau pêl-fasged, pêl-rwyd a thenis newydd Canolfan Hamdden Cil-y-coed ar ddydd Iau, 1af o Dachwedd.
Bydd y safle defnydd deuol yn darparu ar gyfer diwallu anghenion y cwricwlwm, gyda’r ysgol uwchradd ar y safle ac ysgolion cynradd clwstwr lleol, yn ogystal â’r defnydd cymunedol gyda’r nos ac ar benwythnosau, a hynny diolch i’r llifoleuadau bylbiau LED newydd uwchben y cyrtiau. Gellir archebu lle drwy’r wefan, ap neu yn y dderbynfa yn y ganolfan hamdden.
Mae Canolfan Hamdden Cil-y-coed yn ganolfan wych i lawer o glybiau, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Yn ogystal â’r cyrtiau defnydd deuol newydd sydd â chylchoedd pêl-fasged newydd sbon y gellir addasu eu huchder, sy’n darparu ar gyfer pob oed a gallu, gall ymwelwyr gael mynediad i gae 3G gyda llifoleuadau (cymeradwywyd gan FIFA), maes Astroturf maint llawn, neuadd chwaraeon amlbwrpas, ystafell ffitrwydd, cyrtiau sboncen a phwll nofio 20m. Er mwyn dysgu mwy am y ganolfan hamdden, ewch i https://www.monlife.co.uk/monactive/caldicot-leisure-centre/
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Bydd y cyrtiau newydd sy’n agor yn swyddogol heddiw yn chwarae rhan hanfodol wrth ganiatáu i ddisgyblion lleol, grwpiau ieuenctid, trigolion a’r gymuned ehangach i fyw bywyd gweithgar, iachus drwy gydol y flwyddyn. Ni allaf aros i weld pawb yn elwa o’r cyfleuster newydd anhygoel hwn.”
This post is also available in: English