Youth Service - Monlife

Gwasanaeth Ieuenctid

Ni yw Tîm Ieuenctid MonLife a rydym yma i helpu pobl ifanc ledled Sir Fynwy i gwrdd â ffrindiau, archwilio diddordebau, cael gafael ar gymorth, a thyfu fel unigolion cyflawn. O ysgwydd i bwyso arno, i rywun a fydd yn gwrando, pwy bynnag ydych chi a beth bynnag yw eich sefyllfa, rydym yma ar gyfer holl bobl ifanc Sir Fynwy.

Yn wahanol i feysydd eraill o fywydau pobl ifanc, mae Gwaith Ieuenctid yn seiliedig ar berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid. Gall pobl ifanc ddewis p’un ai i gymryd rhan ai peidio, ac maent wrth wraidd popeth a wnawn, gan gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, dylunio a darparu’r gwasanaeth i ddiwallu eu hanghenion.

Gan weithio yn y gymuned ac mewn ysgolion, mae ein gweithwyr ieuenctid yn cymryd ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n seiliedig ar hawliau, wedi’i seilio ar barch at bobl ifanc ac egwyddorion cynhwysiant a chyfle cyfartal. Rydym yn cefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc, yn eu grymuso i ddatblygu eu llais a’u dylanwad, a’u cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn. Fel Gwasanaeth Ieuenctid, rydym yn gwerthfawrogi Addysg, Mynegiant, Grymuso, Cyfranogiad a Chynhwysiant ar gyfer pob person ifanc.

Cysylltwch â Ni

Mae ein gwasanaeth:

  • yn cefnogi datblygiad cenhedlaeth o bobl ifanc iach a hyderus yn y dyfodol, sy’n teimlo’n ddiogel yn eu cymuned ac wedi’u grymuso i wneud gwahaniaeth cadarnhaol
  • yn helpu pobl ifanc i ennill sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, ac yn cefnogi eu datblygiad personol
  • yn annog a chefnogi pobl ifanc i fynegi eu syniadau, barn, emosiynau a dyheadau
  • yn arfogi pobl ifanc i arfer eu hawliau eu hunain, cyflawni eu cyfrifoldebau, datblygu sgiliau arwain, ac ymgysylltu â’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau
  • yn cefnogi pobl ifanc i gael llais, bod yn bartneriaid mewn, a rhannu cyfrifoldeb am y cyfleoedd, prosesau dysgu a strwythurau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’u hamgylcheddau eu hunain a phobl eraill
  • yn anfeirniadol, cynhwysol a chroesawgar i bob person ifanc

Mae pob aelod o’r Gwasanaeth Ieuenctid yn Weithwyr Ieuenctid a Gweithwyr Cymorth Ieuenctid sydd â chymwysterau proffesiynol, ac maent i gyd wedi’u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) gyda thrwydded i ymarfer. Mae hyn yr un fath ag athrawon a’r rhai mewn proffesiynau addysg eraill fel colegau a darparwyr dysgu / hyfforddiant yn seiliedig ar waith.  Mae gan bob aelod o staff â Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyfredol ac wedi’u hyfforddi’n llawn i ddiogelu pobl ifanc.

Rydym yn gweithredu pedair Canolfan Ieuenctid yn Sir Fynwy, sy’n agored i bobl ifanc 11 i 18 oed (Blynyddoedd Ysgol 7+); mae cymorth hefyd ar gael i bobl rhwng 19 a 25 oed..  Mae’r rhain yn fannau diogel, cynnes a chroesawgar i bobl ifanc gwrdd â’i gilydd a chael hwyl.  Mae ein canolfannau yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac amwynderau i bobl ifanc gan gynnwys mynediad i’r rhyngrwyd, byrddau pŵl, consolau gemau, offer chwaraeon, celf a chrefft, a lluniaeth.

Mae hefyd yn ffordd i bobl ifanc gael gafael ar arweiniad neu gymorth gan dîm y ganolfan o weithwyr ieuenctid ardal ymroddedig a chyfeillgar pryd bynnag y bo angen.  Mae canolfannau wedi’u cynllunio i fod yn siop un stop i bobl ifanc, lle gallant gael gafael ar wybodaeth neu gael eu cyfeirio at wasanaethau eraill os oes angen, megis cwnsela, addysg, cymorth lles ac ati.

Mae ein canolfannau ar agor ar ôl ysgol yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor, yn ogystal â dros hanner tymor a gwyliau’r haf.  Gall ein gweithwyr ieuenctid gynnig:

  • gweithdai yn seiliedig ar faterion
  • cymorth grŵp wedi’i dargedu
  • cymorth cyfeillgarwch a theuluol
  • cymorth unigol a chefnogaeth grŵp LHDTC+
  • cymorth iechyd rhywiol a pherthynas
  • cymorth iechyd meddwl a lles
  • cymorth ysgol ac addysg
  • cymorth sgiliau bywyd
  • canllawiau pontio
  • a mwy!

Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r rhain, gweler ein hadran ‘Cysylltwch â Gweithiwr Ieuenctid’ isod.

Ein Canolfannau Ieuenctid:

Yr Attik, Canolfan Ieuenctid Trefynwy, Stryd Whitecross, Trefynwy, NP25 3XR

(wedi’i leoli ger Llyfrgell Trefynwy)

Rhif Ffôn:  07966 141 701, 07812 064 634 neu 01600 772 033

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk

 

Y Caban, Canolfan Ieuenctid y Fenni, Hen Heol Henffordd, Y Fenni, NP7 6EL

(wedi’i leoli ger y parc sglefrio ar Hen Heol Henffordd)

Rhif Ffôn: 07971 729 246 neu 07827 88 00 55

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk

 

Bulwark, Canolfan Gymunedol Bulwark, Cas-gwent, NP16 5RF

Dydd Llun (3:30pm – 6:00pm) a dydd Mawrth (3:30pm-6:30pm)

Rhif Ffôn: 01291 425 427, 07816 127 172 neu 07970 035 351

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk

 

Y Parth, Canolfan Ieuenctid Cil-y-coed, 1 Chepstow Road, Cil-y-coed, NP26 4XY

(wedi’i leoli yng nghanol tref Cil-y-coed, wrth ymyl gorsaf yr heddlu a gyferbyn â The Cross)

Rhif Ffôn:  01291 425 427, 07816 127 172 neu 07974 629 780

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk

 

Mae gennym gysylltiadau ardderchog hefyd ag ysgolion cyfun yr ardal, cynghorau tref, cymunedau lleol a phreswylwyr.

Mae ein gweithwyr ieuenctid hefyd yn cysylltu â phobl ifanc mewn ardaloedd eraill yn Sir Fynwy y tu allan i Ganolfannau Ieuenctid drwy waith allgymorth cymunedol.  Mae hyn er mwyn darparu cefnogaeth, arweiniad a hwyl i bobl ifanc pan fyddant allan.  Os ydych chi’n gweld unrhyw un o’n gweithwyr ieuenctid o gwmpas, mae croeso i chi ddweud helo!

Gallwn hefyd gynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn rhai o’n canolfannau ieuenctid.  Dyma gyfle i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, darparu sbardun i gyflogaeth yn y dyfodol neu eich galluogi i ddysgu sgiliau newydd.  I fod yn wirfoddolwr, rhaid i chi fod yn 16+ oed, eisiau gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a gallu rhoi ychydig o oriau’r wythnos/mis.

I gael rhagor o wybodaeth am ein canolfannau ieuenctid neu unrhyw un o’r grwpiau neu’r cymorth y gall staff ein canolfan ei gynnig, e-bostiwch: youth@monmouthshire.gov.uk.

**Nodwch mai dyma’r unig safle swyddogol ar gyfer gwybodaeth sy’n ymwneud â Chanolfannau Ieuenctid MonLife (yr Attik, y Caban a’r Parth)**

Yn ogystal â’n canolfannau ieuenctid, rydym yn cynnal clybiau ieuenctid rhan-amser mewn gwahanol ardaloedd ar draws Sir Fynwy.

Mae rhai o’n clybiau ieuenctid ar gyfer Blwyddyn 6 yn unig i helpu gyda’r pontio i’r ysgol uwchradd. Mae’r rhain yn cael eu rhedeg gan staff profiadol unwaith yr wythnos yn ystod y tymor, ac maent yn gyfleoedd gwych i bobl ifanc gwrdd â chyfoedion o wahanol ysgolion cynradd, cyn dechrau yn yr ysgol uwchradd, yn ogystal â dod i adnabod gweithwyr ieuenctid yn eu hardal.

Mae rhai clybiau eraill (megis Clybiau Ieuenctid Porth Sgiwed a Sudbrook) fel arfer ar gyfer oedrannau 11+ er mwyn rhoi lle i’r rhai sy’n byw ymhellach i ffwrdd o ganolfannau ieuenctid gymdeithasu ac ymlacio mewn amgylchedd cynnes a diogel, unwaith yr wythnos yn ystod y tymor.

Mae ein holl glybiau ieuenctid yn cael eu staffio gyda staff profiadol, ac rydym yn annog aelodau’r gymuned i wirfoddoli i gymryd rhan.  Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau o gemau cyfrifiadurol i weithgareddau chwaraeon.  Mae digwyddiadau cymdeithasol i lefydd fel teithiau nofio a gweithgareddau antur awyr agored hefyd yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn.

Y clybiau ieuenctid presennol sy’n gweithredu ar draws Sir Fynwy yw:

Clwb Ieuenctid Pontio’r Fenni

Dyddiau Llun,

4:15-6:00pm

Clwb Ieuenctid Porth Sgiwed a Sudbrook

Neuadd Eglwys Porth Sgiwed, Heol Crug, Porth Sgiwed, NP26 5UL

Dyddiau Mawrth, 6:00-8:00pm

Clwb Ieuenctid Caerwent

Canolfan Gymunedol Caerwent, NP26 5NS i rai 11-14 oed

Dydd Mawrth, 5:00-6:45pm

Gallwn hefyd gynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn rhai o’n clybiau ieuenctid.  Dyma gyfle i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, darparu sbardun i gyflogaeth yn y dyfodol neu eich galluogi i ddysgu sgiliau newydd.  I fod yn wirfoddolwr, rhaid i chi fod yn 16+ oed, eisiau gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a gallu rhoi ychydig o oriau’r wythnos/mis.

Gallwch hefyd edrych ar opsiynau gwirfoddoli eraill sydd ar gael i bobl ifanc trwy CMGG (mae angen cofrestru) YMA.

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’n clybiau ieuenctid, e-bostiwch: youth@monmouthshire.gov.uk

Angen siarad â gweithiwr ieuenctid? Oes gennych chi gwestiwn?

Yn ogystal â siarad wyneb yn wyneb, gall ein gweithwyr ieuenctid hefyd gynnig cefnogaeth un-i-un yn ddigidol, gan gynnwys galwadau ffôn, negeseuon testun, negeseuon Facebook, WhatsApp, galwadau fideo, a mwy.  I gysylltu â ni, defnyddiwch y manylion cyswllt canlynol:

Yr Attik, Canolfan Ieuenctid Trefynwy, Stryd Whitecross, Trefynwy, NP25 3XR

(wedi’i leoli ger Llyfrgell Trefynwy)

Rhif Ffôn:  07966 141 701, 07812 064 634 neu 01600 772 033

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk

 

Y Caban, Canolfan Ieuenctid y Fenni, Hen Heol Henffordd, Y Fenni, NP7 6EL

(wedi’i leoli ger y parc sglefrio ar Hen Heol Henffordd)

Rhif Ffôn: 07971 729 246 neu 07827 88 00 55

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk

 

Bulwark, Canolfan Gymunedol Bulwark, Cas-gwent, NP16 5RF

Dydd Llun (3:30pm – 6:00pm) a dydd Mawrth (3:30pm-6:30pm)

Rhif Ffôn: 01291 425 427, 07816 127 172 neu 07970 035 351

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk

 

Y Parth, Canolfan Ieuenctid Cil-y-coed, 1 Chepstow Road, Cil-y-coed, NP26 4XY

(wedi’i leoli yng nghanol tref Cil-y-coed, wrth ymyl gorsaf yr heddlu a gyferbyn â The Cross)

Rhif Ffôn:  01291 425 427, 07816 127 172 neu 07974 629 780

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk

 

NODWCH:  Nid gwasanaeth 24 awr yw hwn! Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys ac na allwch gael gafael arnom, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r canlynol:

  • 999 mewn argyfwng
    • 101 ar gyfer yr heddlu os nad yw’n frys
    • 111 ar gyfer materion GIG nad ydynt yn frys
    • 0800 328 4432 am bryderon diogelu
  • Childline (ffoniwch 0800 1111 neu sgwrsiwch ar-lein, Iaith Arwyddion Prydain ar gael)
  • Samariaid (ffoniwch 116 123, neu 0808 164 0123 i siarad yn Gymraeg 7-11pm)
  • Shout (tecstwich ‘Shout’ i 85258)
  • Young Minds (tecstiwch ‘YM’ i 85258, neu gall rhieni/gwarcheidwaid ffonio 0808 802 5544 9:30am-4pm Llun-Gwener)
  • Llinell Gymorth CALL (ffoniwch 0800 13 27 37 neu decstiwch ‘help’ i 81006)
  • MEIC (ffoniwch 080880 23456, tecstiwch 84001, neu sgwrsiwch ar-lein, yn Gymraeg hefyd, ar gael 8am-hanner nos)
  • The Mix (ffoniwch 0808 808 4994 (3pm-hanner nos), tecstiwch ‘themix’ i 85258 (ar gael 24/7), neu sgwrsiwch ar-lein (4-11pm))
  • Hopeline (ffoniwch 08000 68 41 41, neu anfonwch neges destun at 07860 03 99 67, ar gael 9am-hanner nos)
  • CALM (ffoniwch 0800 58 58 58 58, neu sgwrsiwch ar-lein, ar gael 5pm-hanner nos)

Mae’r holl wasanaethau cymorth hyn ar gael 24/7 bob dydd o’r flwyddyn oni nodir yn wahanol, ac maent yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol.  Byddwn yn cysylltu nôl atoch cyn gynted ag y gallwn!

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r canolfannau, clybiau neu brosiectau rydym yn eu rhedeg, anfonwch e-bost atom i youth@monmouthshire.gov.uk

Rydym yn cynnal teithiau a digwyddiadau rheolaidd ar gyfer pobl ifanc sy’n byw ac yn mynd i’r ysgol yn Sir Fynwy.  Mae rhai o’r rhain yn agored i bob person ifanc 11+ oed, ac mae eraill ar gyfer grwpiau penodol o bobl ifanc yn unig.  Mae’r rhain yn aml yn cael eu rhedeg am gost is i bobl ifanc i’w gwneud yn fwy hygyrch i bawb.

Chwilio am fwy o wybodaeth am daith neu ddigwyddiad rydym yn ei redeg?  Edrychwch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, neu e-bostiwch youth@monmouthshire.gov.uk.

FacebookInstagram

Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am deithiau sy’n rhedeg ar gyfer ardal benodol drwy gysylltu â chanolfan ieuenctid yr ardal.

Mae Prosiect SHIFT yn cynnig cymorth i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, emosiynol neu les, sy’n dod i’r amlwg.  Mae hyn er mwyn helpu pobl ifanc i ddatblygu gwydnwch trwy gymorth anghlinigol gan ddefnyddio dulliau gwaith ieuenctid yn yr ysgol a’r gymuned, megis mentora un i un a gwaith grŵp bach.

Mae gweithwyr ieuenctid SHIFT yn darparu cymorth uniongyrchol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd wedi’i deilwra i anghenion pobl ifanc.  Mae hyn er mwyn helpu pobl ifanc i sefydlu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol a diogel gydag oedolyn y gellir ymddiried ynddo, cael mynediad at gymorth yn eu cymunedau a datblygu cysylltiadau diwylliannol.  Gall gweithwyr ieuenctid SHIFT hefyd gefnogi pobl ifanc i gael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad, cyfeirio a chyfeirio lle bo angen.

Mae’r prosiect yn cael ei ddarparu ar draws Sir Fynwy mewn ysgolion a chymunedau, ac mae’n agored i bobl ifanc 11+ oed drwy atgyfeirio.

Am fwy o wybodaeth am SHIFT, e-bostiwch: youth@monmouthshire.gov.uk

This post is also available in: English