‘Croeso i Gysylltu MonLife, y brand sy’n ceisio darparu cefnogaeth lles corfforol ac emosiynol drwy weithgareddau ysbrydoledig i blant a phobl ifanc ar draws Sir Fynwy, yn ogystal â chysylltiadau ystyrlon drwy ystod o gyfleoedd gwirfoddoli sefydledig.
Nod Cysylltu MonLife yw i fod yn adnodd arbennig i rieni a phlant yn Sir Fynwy, gyda phwrpas craidd yn rhedeg trwy ein gwasanaethau blaenllaw. Ein gweledigaeth yw datblygu cenhedlaeth o bobl ifanc Iach a Hyderus yn y dyfodol, sy’n teimlo’n Ddiogel yn eu cymuned ac wedi’u grymuso i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Dysgwch fwy am ein gwasanaethau isod.
Chwarae yn MonLife
Mae chwarae’n bwysig ym mywydau plant, am ei gwerth hamdden ac am y rhan y mae’n chwarae ym maes iechyd a lles corfforol ac emosiynol plant, ac yn eu datblygiad personol.
Ein Gwasanaeth Ieuenctid yw prif ddarparwr arobryn Gwaith Ieuenctid yn Sir Fynwy. Prif ddiben Gwaith Ieuenctid yw galluogi pob person ifanc rhwng 11 a 25 oed i ddatblygu’n gyfannol trwy amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd.
Mae gwirfoddolwyr yn rhan annatod o’r gwaith rydym yn ei wneud, a’n nod yw darparu’r profiad gwirfoddol gorau posib. Mae MonLife yn gallu cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd gwirfoddoli o fewn ei gwasanaethau.