Joel Hamer - Monlife - Page 2

YN FYW: Ymgynghoriad Cyhoeddus Wyesham

YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS: Cysylltiadau Teithio Llesol Wyesham (Trefynwy) Astudiaeth WelTAG Cam Dau

Dweud eich dweud

Hoffem glywed eich barn ar y rhestr o opsiynau posibl sydd wedi’u cynllunio i wella cysylltiadau teithio llesol rhwng y Bont Deithio Llesol newydd arfaethedig ar draws Afon Gwy a Wyesham.

Rydym yn argymell eich bod yn gweld y cynlluniau  ac yn darllen y dudalen hon yn gyntaf i ddarganfod mwy am y cynllun.

Pam bod newidiadau wedi cael eu cynnig?

Mae’r llwybr o Wyesham i ganol tref Trefynwy yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan drigolion, plant (yn teithio i ac o ysgolion), twristiaid ac ymwelwyr. Mae’r cyfleusterau presennol i gerddwyr fodd bynnag yn gyfyngedig, tra nad oes cyfleusterau beicio o gwbl. Mae cysylltiadau yn ardal yr astudiaeth wedi methu’r archwiliadau teithio llesol a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy ym mis Medi 2020. Wrth i gynigion ar gyfer Pont Deithio Llesol Gwy ddod i’r amlwg, mae pwysigrwydd cysylltu cysylltiadau teithio llesol o’r ardaloedd cyfagos i ac o’r bont newydd wedi ei amlygu.

Amcanion y cynllun

Tri amcan y cynllun hwn yw:

  • Darparu rhwydwaith cerdded a beicio uniongyrchol, cydlynol, cyfforddus a deniadol sy’n addas i’r holl ddefnyddwyr;
  • Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i addysg, iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau allweddol eraill;
  • Gwella diogelwch gwirioneddol a chanfyddedig defnyddwyr bregus;
  • Cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded a seiclo rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy;
  • Lleihau dibyniaeth ar geir a defnyddio ceir ar gyfer teithiau byr rhwng canol tref Wyesham a Threfynwy drwy newid mewn dulliau teithio; a
  • Lleihau effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig (h.y., gwella ansawdd aer, gwella amgylchfyd y cyhoedd, darparu seilwaith draenio cynaliadwy, ac ati).

Y cynigion

Mae prosiectau fel yr un yma fel arfer yn mynd yn eu blaen dros sawl blwyddyn o’r cysyniad hyd at ddylunio manwl ac yna maent yn ddibynnol ar gymeradwyaeth arian gan gyrff fel Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu. Ar hyn o bryd rydym mewn cyfnod cynnar o’r broses ddylunio. Bydd

Bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei ddewis yn seiliedig ar sawl agwedd, gan gynnwys canlyniadau ymgynghori cyhoeddus, opsiwn medru cyflawni (lle bydd perchnogaeth tir yn chwarae rhan allweddol), goblygiadau cost, a pherfformiad opsiwn yn erbyn amcanion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, uchelgeisiau a blaenoriaethau.

Oherwydd maint ardal yr astudiaeth, mae’r llwybr wedi ei rannu’n ddwy adran, fel y disgrifir isod.

Llwybr Adran Un  – o’r Bont Deithio Llesol Newydd arfaethedig i Heol Wyesham

Opsiwn 1: yn cynnig lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol yr A466 a’r A4136 i ddarparu troedffordd/llwybr beicio a rennir oddi ar y ffordd o’r Bont Deithio Llesol i Heol Wyesham a gyflawnir drwy gulhau ychydig i lawr y ffordd gerbydau a chefnogaeth strwythurol arglawdd. Byddai’r ddwy groesfan ynys lloches i gerddwyr sydd eisoes heb reolaeth yn cael eu disodli gan gyfleusterau croesi rheoledig. Byddai holl gyffyrdd ffordd yr ochr yn cael eu hail-gynllunio i ddarparu ar gyfer llwybr teithio llesol.

Opsiwn 2: fel Opsiwn 1 ond yn rhannol is na lefel y ffordd bresennol (rhwng Parc Glanyrafon  a Heol Redbrook). Byddai llwybr yn cael ei rannu gan gerddwyr/beicwyr yn cychwyn o’r gyffordd â Pharc Glanyrafon ac yn rhedeg o dan lefel ffordd bresennol yr A466. Byddai ramp wedyn yn ei gysylltu â’r droedffordd bresennol (gan godi i fyny at lefel y droedffordd) gyferbyn â’r gyffordd â Heol Redbrook. Byddai’r droedffordd bresennol ar ochr deheuol yr A466 heb ei heffeithio.

Llwybr Adran Dau  – Heol Wyesham  a Rhodfa Wyesham

Opsiwn 1: system unffordd tua’r dwyrain o Heol Wyesham (Mewn) /Rhodfa  Wyesham (Allan), ar ôl cyffordd â Rhodfa Wyesham, byddai’r ffordd gerbydau yn dychwelyd i draffig dwy ffordd. Byddai troedffordd/llwybr beicio a rennir yn cael ei ddarparu ar ochr ddeheuol Heol Wyesham i Ysgol Gynradd Kymin View. Byddai lled y ffordd gerbydau ar Rodfa Wyesham yn cael ei leihau a’r llwybr troed yn cael ei ledu. Dim colli parcio ar Rodfa Wyesham. Potensial i gynnwys cysylltiadau o Rodfa Wyesham i Heol Wyesham y tu ôl i Eglwys Sant Iago a thrwy goetir cymunedol.

Opsiwn 2: yr un peth ag Opsiwn 1 ond Rhodfa Wyesham tua’r gorllewin (Mewn) / Heol Wyesham (Allan)

Opsiwn 3: cynnal traffig dwy ffordd gyda’r egwyddor strydoedd tawel yn berthnasol i Heol Wyesham a Wyesham Avenue. Mae ‘strydoedd tawel’ yn derm sydd yn cael ei roi i lwybrau seiclo trefol ar strydoedd cefn sydd â  chyflymder isel a lefel isel o draffig, sydd yn addas iawn ar gyfer seiclwyr newydd a llai hyderus. Mae  Heol Wyesham a Wyesham Avenue wedi eu clustnodi ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya, a fydd yn addas ar gyfer yr egwyddor strydoedd tawel. Bydd llwybr seiclo  yn cael ei osod ar y ffordd, gyda symbolau seiclo yn cael eu defnyddio er mwyn dynodi’r llwybr a lle y dylid seiclo ar y cerbytffordd. Bydd llwybrau cerdded yn cael eu lledaenu os yn bosib  ac ar gyfer cerddwyr yn unig. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys cysylltiadau o Wyesham Avenue i Heol Wyesham y tu nôl i Eglwys Sant Iago a thrwy’r coetir cymunedol. Mae yna botensial i gynnwys darn byr o Droedffordd a Rennir (Cerddwyr a Seiclwyr) o gyffordd Heol  Wyesham gydag Wyesham Avenue i Ysgol Kymin View.

Strydoedd tawel – DE205: CLICIWCH YMA

Sifftio opsiwn

Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â Phroses Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, datblygodd tîm y prosiect restr eang o ddatrysiadau posib, digon i allu penderfynu a oes unrhyw opsiynau cynllun gwerth eu dilyn ac i ddewis rhestr fer o opsiynau (fel y manylir uchod) i’w hystyried yn fanylach. Roedd yr opsiynau ar y rhestr fer yn seiliedig ar:

  • eu gallu  i atal, neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol;
  • eu gallu i gyflawni’r amcanion a osodwyd a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru;
  • eu heffeithiau tymor byr a thymor hwy i sicrhau manteision lluosog ar draws y pedair agwedd ar les a sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i’r saith nod llesiant;
  • eu gallu i gyflawni; a
  • eu cadernid i ansicrwydd a photensial i yrru newid hirhoedlog.

Llwybr Heol/Rhodfa Wyesham yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd i gysylltu Wyesham â thref Trefynwy ac mae’n ofynnol iddo gael ei gynllunio a’i adeiladu i gyd-fynd â’r Bont Deithio Llesol newydd. Yn anffodus, mae pob opsiwn i wella llwybr Heol Redbrook yn gofyn am brynu tir a strwythurau cadw sylweddol, a allai gymryd blynyddoedd i gytuno. Gallai hyn oedi’n sylweddol a hyd yn oed beryglu’r cynllun. Oherwydd hyn, mae adran Heol Redbrook wedi’i gwahardd o’r cynllun hwn a’n ffocws presennol ar lwybr Heol/Rhodfa Wyesham , a fydd yn cefnogi cyflwyno’r Bont Deithio Llesol newydd.

Eich barn

Rydym am glywed eich barn ar bob un o’r opsiynau. A fyddech gystal â nodi’r rhai sydd ar y rhestr fer. Gallwch fynegi eich meddyliau drwy glicio ar y ddolen arolwg isod.

A fyddech gystal ag annog aelodau eich cartref ac eraill i gynnal yr arolwg gan nad yw eich ymatebion o reidrwydd yn adlewyrchu barn pobl eraill.

Ar ôl cwblhau’r arolwg hwn, rydych yn cytuno i’r data hyn gael eu defnyddio at y diben hwn gan Gyngor Sir Fynwy a gan Gynllun Gofodol Cymru (RE&I).

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Fynwy ar ran Cynllun Gofodol Cymru (RE&I). Byddwn yn casglu eich data at y diben hwn yn unig a bydd unrhyw rannu data’n cael ei wneud yn ddienw. Nid yw’r ffurflen hon yn dal eich enw na’ch manylion cyswllt. Am fwy o wybodaeth am breifatrwydd ymwelwch â https://www.monmouthshire.gov.uk/your-privacy/

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn cydsynio i’ch gwybodaeth gael ei phrosesu at y diben fel yr amlinellir uchod.


Diweddariad Pwysig: System Rheoli Hamdden

Annwyl Aelod,

Ar ran pawb ym MonLife gobeithio eich bod yn iach ac yn ddiogel ar hyn o bryd.  

Roeddwn am roi gwybod i chi am ychydig o newidiadau cyffrous y byddwch yn eu gweld dros yr wythnosau nesaf, wrth i ni osod y System Rheoli Hamdden NEWYDD yn ein Canolfannau MonLife Egnïol.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio yn y cefndir ar weithredu’r system newydd hon a fydd yn gwella’ch profiad ac yn gwneud rheoli eich aelodaeth gyda ni hyd yn oed yn haws.  Dyma’r newidiadau newydd:

  • Proses cofrestru cyflymach os ydych am ymuno fel aelod
  • Llwyfan cyfathrebu effeithiol trwy e-bost, hysbysiadau gwthio ac SMS
  • Gweld, ymuno a thalu am unrhyw un o’n dewisiadau Aelodaeth Egnïol drwy’r Ap ac ar-lein
  • Haws gweld, archebu a thalu am ddosbarthiadau neu weithgareddau pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi ac ar unrhyw ddyfais.
  • Gweld, rheoli a diweddaru eich manylion personol.
  • Mewngofnodi gan ddefnyddio e-bost a chyfrinair yn lle eich rhif aelodaeth
  • Opsiynau rhannu cymdeithasol integredig sy’n eich galluogi i rannu manylion eich archebion gyda ffrindiau a theulu.

Hoffem eich sicrhau, yn ystod yr ymfudo o’n hen System Rheoli Hamdden i’n un newydd rydym yn cydymffurfio’n llawn â’r RhDDC a bydd eich holl ddata yn parhau i fod yn hollol ddiogel.

Fel gyda phob system newydd rydym yn gobeithio y bydd y mudo hwn yn rhedeg yn llyfn ond byddwch yn amyneddgar os ydym yn profi unrhyw faterion technegol.

Ein blaenoriaeth fel bob amser yw sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar eich profiad.   Bydd ein tîm yn diweddaru ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.

Byddwch yn sicr bod tîm MonLife yn gweithio’n ddiflino i gael y system newydd hon ar waith a gobeithiwn eich bod yn mwynhau’r rhyngwyneb cwsmeriaid newydd a gwell.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch monmemberships@monmouthshire.gov.uk

Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth barhaus, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.


How can we better involve young people in Monmouthshire Museums?

Dyma’r cwestiwn rydym yn gobeithio dod o hyd i’r ateb iddo!  Rydym yn bedwar o bobl ifanc o’r ardal sy’n gweithio ar ffyrdd o wella’r gwasanaeth amgueddfeydd i bobl ifanc fel ni.  Gan weithio gyda Threftadaeth MonLife a Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, mae’r pedwar ohonom yn ymgynghori ag amgueddfeydd a phobl ifanc yn yr ardal ar gyfer y prosiect hwn; ymweld â safleoedd treftadaeth i asesu’r gwasanaeth amgueddfeydd presennol; a siarad ag amrywiaeth o bobl ifanc wyneb yn wyneb ac ar-lein i weithio allan y ffordd orau o ddatblygu ein hamgueddfeydd. Mae gennym hefyd arolwg ar-lein i sicrhau y gall pawb fod yn rhan o’r gwaith o wella ein hamgueddfeydd.

Ein nod yw sicrhau gwasanaeth amgueddfeydd sy’n gwasanaethu pobl ifanc yn well, ac sy’n annog y genhedlaeth nesaf i ymgysylltu â’r sector treftadaeth a hanes eu cymuned.  Bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu sylfaen i’r sector treftadaeth adeiladu arno, gan lywio’r ffyrdd rydym yn datblygu’r gwasanaeth amgueddfeydd i’r dyfodol.

Os hoffech gael dweud eich dweud yn nyfodol ein hamgueddfeydd, cwblhewch ein holiadur gan ddefnyddio’r ddolen isod. Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio ar y prosiect hwn gyda chi!

Arolwg Pobl Ifanc Treftadaeth MonLife https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSedkhtL4D9JSA4LRUsu0wY6DUegipGs0tXFpYtQRGBc_lFrkQ/viewform  


Cyfle Cyffrous

A ydych rhwng 19 a 25 a’n angerddol am wneud gwahaniaeth diriaethol i’ch cymuned? Yna ymunwch gyda Phanel Ieuenctid ar gyfer Diwylliant a Threftadaeth  newydd MonLife!  

Rydym yn chwilio am yr aelod olaf i ymuno gyda’r panel. Byddwch yn rhan o grŵp o 8 o bobl ifanc (rhwng 16 a 25) o’r sir a fydd yn dylanwadu’n uniongyrchol  ar sut y mae gweithgareddau MonLife yn cael eu darparu i bobl ifanc. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a chwrdd gyda phobl ifanc eraill yn Sir Fynwy a bydd yn brofiad ardderchog i’w ychwanegu at eich CV.

Bydd y cyfarfod nesaf o’r Panel Ieuenctid  yn cael ei gynnal yn y Neuadd Sirol yn Nhrefynwy arddydd Llun 10fed Hydref, 5:30 – 7:00 pmByddwch yn derbyn taleb gwerth £25 am fynychu. 

Cofrestrwch eich diddordeb yma: Panel Ieuenctid ar gyfer Diwylliant a Threftadaeth MonLife  – Cofrestru Diddordeb.  Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda David (davidurryscicom@gmail.com).


Spring into Easter holiday fun with MonLife

Dewch i fwynhau gwyliau’r Pasg gyda MonLife

Os ydych yn chwilio am bethau i’w gwneud dros wyliau y Pasg, yna nid oes angen i chi chwilio mwyach gan fod  yr ateb gan MonLife – rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i ddiddanu plant o bob oedran (a’u rhieni).   

Mae Dysgu MonLife wedi paratoi cynlluniau i greu hwyl am ddim i deuluoedd rhwng  11am a 3pm yn Neuadd Sirol Sir Fynwy (dydd Llun 11eg Ebrill), Neuadd Drill Cas-gwent (dydd Iau 21ain Ebrill) ac Amgueddfa’r Fenni (dydd Gwener 22ain Ebrill)

Mae Gemau Sir Fynwy, sydd wedi dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd, yn ôl eto  o ddydd Llun 11eg – dydd Iau 14eg Ebrill, a dydd Mercher 20fed – dydd Gwener 22ain Ebrill. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd, adeiladu hyder, cwrdd â phobl newydd ac yn fwy pwysig, cael hwyl drwy gyfrwng chwaraeon. Mae pob un diwrnod yn llawn gweithgareddau gwahanol ac mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru er mwyn cadw lle gan fod yna 50 lle ar gael bob dydd. Bydd plant a phobl ifanc rhwng 5 a 11 mlwydd oed yn cael y cyfle, ar draws y sesiynau gwahanol,  i fwynhau 30 o chwaraeon gwahanol. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 8am a 5pm, a’r gost yw £21 y diwrnod. Mae modd cofrestru ar wefan MonLife:

www.monlifeholidayactivities.co.uk/cy/monmouthshire-games-cymraeg/

Os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig mwy naturus, yna beth am gymryd rhan yn Sesiwn Rhoi Cynnig ar Anturiaethau Gwasanaeth Ieuenctid MonLife. Bydd y gyfres o ddiwrnodau antur awyr agored yn cynnwys – os yw’r tywydd yn caniatáu – canŵio, ogofa, dringo creigiau a rhaffau uchel. Mae’r teithiau ar agor i bobl ifanc ym Mlynyddoedd 7-10, sef rhwng 11 a 15 mlwydd oed. Mae ffi benodol ar gyfer pob sesiwn o £15, sydd yn talu am y gweithgaredd a’r cludiant, a bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan staff addysg awyr agored proffesiynol a staff o Wasanaeth Ieuenctid  MonLife. Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael ac mae cofrestru yn hanfodol a’r dyddiad cau yw dydd Gwener, 8fed Ebrill, ac felly, bydd angen i chi fod yn gyflym. Mae manylion y sesiynau yma ar gael ar wefan MonLife neu drwy e-bostio youth@monmouthshire.gov.uk  

Bydd y Caban a Pharc Sgrialu y Fenni  yn cynnal Gweithdy Sgrialu am ddim rhwng  12pm a 2pm ar ddydd Mawrth 12fed Ebrill, pan fydd sgrialwr yn helpu pobl ifanc i ddysgu hanfodion sgrialu. Bydd Canolfan Chwarae Trefynwy hefyd yng nghanolfan hamdden y dref hefyd ar agor ac yn cynnig llawer o hwyl dros dri llawr. Mae yna fan penodol ar gyfer plant bach. Mae oedolion yn medru ymlacio gyda phaned o de, gydag wi-fi ar gael am ddim. Mae’r nifer o lefydd wedi eu cyfyngu. Peidiwch ag anghofio bod y pyllau nofio, campfeydd a’r dosbarthiadau ar agor yn ystod y gwyliau (ac eithrio ar ddydd Gwener, 15fed, dydd Llun 18fed a dydd Mawrth 19eg Ebrill).

Am fwy o wybodaeth a syniadau, ewch i:

  www.monlifeholidayactivities.co.uk/cy/activities-cymraeg/


Leisure and Physical Activity Strategy

Strategaeth Hamdden a Gweithgarwch Corfforol

Mae BywydMynwy ynghyd â Chyngor Sir Fynwy a Max Associates, cwmni ymgynghori hamdden, yn datblygu Strategaeth Hamdden a Gweithgarwch Corfforol sy’n adolygiad strategol o’r modd mae gweithgareddau corfforol, hamdden, lles a chwaraeon yn cael eu darparu ar draws Sir Fynwy.

Mae’n cael ei gydnabod yn eang y gall gweithgareddau corfforol, hamdden, lles, gwasanaethau a chyfleusterau chwaraeon a gyfeirir yn strategol gael effaith sylweddol a chadarnhaol ar helpu cymunedau:

  • – Cyswllt
  • – Adfer ac Ailddyfeisio wedi’r pandemig
  • – Darparu profiadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc
  • – Gwella iechyd a lles
  • – Gwella amgylcheddau gweithredol

Bydd y strategaeth hon yn ceisio ein helpu i osod y cyfeiriad ar gyfer BywydMynwy Egnïol yn y dyfodol drwy wella mynediad i gyfleusterau a datblygu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y dyfodol tra bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein nodau busnes o:

  • – Gyfoethogi bywydau pobl drwy gyfranogiad a gweithgaredd.
  • – Adeiladu cymunedau cadarn yn Sir Fynwy

Bydd y dull adolygu strategol yn dilyn y strwythur a nodir isod;

  • Cam 1 – Deilliannau – Datblygu canlyniadau lleol a rennir ar gyfer cymunedau Sir Fynwy;
  • Cam 2 – Mewnwelediad – Deall y gymuned yn Sir Fynwy;
  • Cam 3 Ymyriadau – Nodi sut y gellir cynnal y canlyniadau yn gynaliadwy;
  • Cam 4 – Ymrwymiad – Sicrhau buddsoddiad ac ymrwymiad i gyflawni canlyniadau.

Fel rhan o’r broses strategaeth hon, mae’n bwysig ein bod yn deall ac yn ystyried barn y gymuned. Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg i’n helpu i ddeall y rhwystrau a allai eich atal rhag bod yn gorfforol actif a sut y gallwn helpu i oresgyn y rhain.

Gallwch gwblhau ein harolwg yma:

CYMRAEG

SAESNEG


MonLife Active Tier 4 Lockdown


Yn dilyn cyhoeddiad a wnaed ddydd Mercher gan y Prif Weinidog, byddwn yn cau’r holl Ganolfannau Hamdden Bywyd Mynwy (MonLife) o ddydd Iau, 24ain Rhagfyr am 3 wythnos wrth i ni fynd i  Haen 4 o’r Cyfnod Clo.

Ein staff, ynghyd â’r gymuned, yw ein blaenoriaeth a hoffem ddiolch i chi am y gefnogaeth yr ydych wedi dangos i MonLife dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi derbyn yr adborth mwyaf anhygoel gan ein cwsmeriaid ac rydym yn disgwyl ymlaen at eich croesawu nôl yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr.

Os ydych wedi trefnu neu archebu rhywbeth, yna peidiwch â phoeni gan y byddwn yn cysylltu gyda chi. Fodd bynnag, os oes ymholiad brys gennych, yna cysylltwch gyda’r Ganolfan Hamdden MonLife briodol.

Ma eich iechyd a’ch lles yn bwysig iawn i ni ac rydym yn parhau i  chwilio am gyfleoedd er mwyn sicrhau eich bod yn medru parhau gyda’ch taith lles tra’n aros gartref.  Mae’r cynnig ffantastig NEWYDD gennym a fydd yn caniatáu i aelodau MonLife i barhau i hyfforddi gyda’u hoff hyfforddwyr ac unigolion eraill y maent yn adnabod a fydd hefyd yn eu cartrefi, a hynny drwy gyfrwng aelodaeth MonLife NEWYDD, sef YN FYW AC AR ALW.  Bydd yr aelodaeth hon yn rhoi profiad ffitrwydd Byw Rhithwir i chi, boed fel unigolyn neu mewn grŵp. Cliciwch  YMA am fwy o wybodaeth. 

Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, fel ein Tudalennau Facebook , dilynwch ein cyfrif Twitter a thanysgrifiwch i’n Sianel Youtube.  Mae Ap MonLife ar gael hefyd – cliciwch YMA i’w lawrlwytho.

Aelodaethau  (Memberships)

Hoffem gynnig sicrwydd i chi nad oes rhaid i chi wneud dim byd a byddwn yn trefnu unrhyw newidiadau i’ch taliad debyd uniongyrchol ym mis Ionawr er mwyn adlewyrchu unrhyw ddiwrnodau sydd yn cael eu colli.   

Gwersi Nofio (Swimming Lessons)

Fel sydd yn digwydd gydag aelodaethau, bydd eich debyd uniongyrchol ar gyfer gwersi nofio yn cael ei newid er mwyn adlewyrchu’r amser sydd yn cael ei golli yn sgil cyfnod clo Haen 4.   

Mae ein timau aelodaeth yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac felly, e-bostiwch  monmemberships@monmouthsire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644499 os gwelwch yn dda.

Fel cwsmer gwerthfawr, hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.   

Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, lawrlwythwch ein Ap MonLife neu ewch i www.MonLife.co.uk


MonLife Tier 4 Lockdown

Yn dilyn cyhoeddiad a wnaed ddydd Mercher gan y Prif Weinidog, byddwn yn cau’r holl Ganolfannau Hamdden Bywyd Mynwy (MonLife) o ddydd Iau, 24ain Rhagfyr am 3 wythnos wrth i ni fynd i Haen 4 o’r Cyfnod Clo.

Mae pob un o wasanaethau eraill MonLife hefyd ar gau, ac eithrio meysydd parcio ar gyfer safleoedd gwledig ac atyniadau, safleoedd awyr agored a meysydd chwarae. Dylech wirio’r tudalennau ar gyfer pob un lleoliad a’r gwasanaethau unigol ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.  

Ein staff, ynghyd â’r gymuned, yw ein blaenoriaeth a hoffem ddiolch i chi am y gefnogaeth yr ydych wedi dangos i MonLife dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi derbyn yr adborth mwyaf anhygoel gan ein cwsmeriaid ac rydym yn disgwyl ymlaen at eich croesawu nôl yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr.

Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, fel ein Tudalennau Facebook , dilynwch ein cyfrif Twitter a thanysgrifiwch i’n Sianel Youtube.  Mae Ap MonLife ar gael hefyd – cliciwch YMA i’w lawrlwytho.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych am eich aelodaeth MonLife, yna e-bostiwch  monmemberships@monmouthsire.gov.uk os gwelwch yn dda neu ffoniwch 01633 644499.

Fel cwsmer gwerthfawr, hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.   


Walking in a winter wonderland

Walking is one of the easiest ways of getting some fresh air and exercise, and both these things are a great help in improving your wellbeing. We are blessed in Monmouthshire with lots of fantastic places to walk, so here are some tips to help you make the most of it.

1. The green, green grass of home – exploring from your house

All of our towns have parks and green spaces which can be a destination in their own right or form a welcome green corridor on the way to shops, school or other destinations. Why not play “I spy”, count the number of houses with green doors or see how many different species of birds you can spot along the way?

2. Country roads – visiting countryside sites

These are great places to visit and go for a walk, and there is bound to be one near where you live for example Caldicot Castle Country Park, the Old Station at Tintern or Castle Meadows in Abergavenny. Check https://www.visitmonmouthshire.com/things-to-do/Countryside-Visitor-Sites.aspx for details. Don’t forget the wildlife sites such as Magor Marsh and Newport Wetlands.

3.Through a big country – the wider countryside

If you are more adventurous or become more confident, why not visit the wider countryside? Monmouthshire has special walks along the rivers such as the Wye, Usk and Monnow, the reservoir at Llandegfedd and the Monmouthshire and Brecon canal. You can visit woodlands owned by Natural Resources Wales or the Woodland Trust. What about a walk up a hill like the Sugar Loaf, Blorenge and Skirrid?

4. Can’t stand losing you – following public rights of way

Get out your map and try following the public rights of way and open access across commons. If you can’t read a map look out for courses on map reading and navigation to improve your skills. Visit our mapping system at https://access.monmouthshire.gov.uk/ for more information about the rights of way network.

5. Do you know where you’re going to? – leaflets and other sources of information

There are lots of leaflets and websites where you can find routes to follow. There are walks for most abilities on this site. https://www.visitmonmouthshire.com/things-to-do/walking-in-monmouthshire.aspx There are other sites online where you can download leaflets and even apps where you can put the routes into your phone.

6. All together now – join in with other people

Normally there are walking groups you can join and guided walks offered by organisations such as the Gwent Wildlife Trust or Monmouthshire County Council. Look out for these as we hopefully come out of restrictions next year.

7. All right now – using the Countryside Code

Remember if you are going out to stick to the rules which are designed to keep you safe and ensure everyone takes care of the countryside. Respect other users and the people who own and look after the land. Also take appropriate clothing and footwear to keep you comfortable and safe. Countryside code information can be found at https://naturalresources.wales/days-out/the-countryside-codes/?lang=en

For further information on how to stay safe on your trips to the countryside click here for the MonLife website or visit Adventure Smart.


Diolch i chi – arwyr ein cymunedau Cymru.

Ym Mawrth 2020 daeth chwaraeon ar lawrgwlad i stop pan wnaeth y pandemig gyrraedd Cymru. Ond yn ystod y cyfnod ansicr yma, bu ein clybiau cymuned, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn arwyr a rhoi balchder i chwaraeon yng Nghymru. Daeth clybiau lleol, grwpiau a sefydliadau at ei gilydd ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol er mwyn gofalu dros bobl yn y gymuned. Fe wnaethoch godi arian dros elusennau, dosbarthu prydiau bwyd i weithwyr y GIG, rhannu offer chwaraeon gyda cartrefi lleol a trefnu cwisiau arlein i helpu trigolion i gadw mewn cysylltiad gyda’i gilydd. Dyna pam, ar y 16fed o Rhagfyr byddwn yn cefnogi ymgyrch y Loteri Genedlaethol i rhannu eich straeon ysbrydoledig! Dwedwn diolch o galon am eich caredigrwydd a’ch ymrwymias i gadw’r genedl i fynd, yn feddylion ac yn gorfforol! Os rydych chi’n nabod rhywun yn eich clwb neu prosiect sydd yn haeddu cydnabyddiaeth ar 16 Rhagfyr – rhannwch y stori ar eich sianeli cymdeithasol, tagiwch ni yn y neges a defnyddiwch yr hashnodau #DiolchiChi a #LoteriGenedlaethol Byddwn yn cadw llygaid barcud am eich stori a rhannu ar ein sianeli ni hefyd fel bod eraill yn cael eu ysbrydoli hefyd. Edrychwn ymlaen at weld sut wnaethoch chi chwarae eich rhan.