Astudiaeth achos: Datblygu llwybrau Teithio Llesol newydd yng Nghil-y-coed
Amcan:
Mae Cyngor Sir Fynwy yn mynd ati i wella’r rhwydwaith cerdded a beicio lleol o gwmpas dwyrain Cil-y-coed, Crug a Phorth Sgiwed i wneud teithio llesol yn fwy hygyrch, yn fwy pleserus ac yn fwy diogel i’r gymuned gyfan.
Gweithredu:
Datblygwyd dwy ran o lwybr rhyng-gysylltiedig: un drwy Barc Gwledig Castell Cil-y-coed (Llwybr Aml-ddefnyddwyr Cil-y-coed sy’n 1 cilomedr o hyd) ac un ar hyd hen reilffordd y Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd bellach yn segur, o Borth Sgiwed i Grug, sy’n rhedeg ochr yn ochr â pharc gwledig y castell ac Ystâd Ddiwydiannol Pont Hafren (Cysylltiadau Cil-y-coed sydd bron yn 3 cilomedr o hyd).
Fel rhan o ddatblygu’r prosiect, cynhaliwyd ymgynghoriad gan randdeiliaid drwy gysylltu â dros 200 o bobl mewn sesiynau ymgysylltu byw, gweithio gyda disgyblion a staff o ddwy ysgol leol, sefydlu tudalen we prosiect yn gwahodd adborth, anfon llythyrau a phosteri yn lleol a chynnal cyfarfodydd rhanddeiliaid ar-lein.
Canlyniadau:
Dangosodd y canlyniadau gefnogaeth leol sylweddol i’r cynigion, gan arwain at rannu dros 800 o syniadau gyda ni i’w hystyried yn y dyluniad manwl.
Cynnydd presennol (fel ym mis Gorffennaf 2022):
- Cam 1 Cysylltiadau Cil-y-coed (rhan ddeheuol, islaw parc gwledig y castell) – cafodd ystod eang o arolygon ac asesiadau eu cwblhau, mae’r hen reilffordd wedi’i chymryd i ffwrdd, yn gwneud cais am ganiatâd ar hyn o bryd, cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer gwaith adeiladu erbyn mis Mawrth 2023 (yn amodol ar ganiatâd sydd ar waith).
- Llwybr Aml-ddefnyddwyr Cil-y-coed a Chamau Cysylltiadau 2 a 3 – Mae arolygon tir ac ecolegol pellach ac asesiadau a datblygiadau dylunio ar y gweill, gan weithio hyd at wneud cais am bob caniatâd.