Ysbrydoli arweinwyr y dyfodol i ddod yn Llysgenhadon Ifanc mewn cynhadledd flynyddol
Mae plant ysgol Sir Fynwy wedi cael eu hysbrydoli i ddod yn arweinwyr drwy chwaraeon, a hynny ar i’r Gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd ddychwelyd.
Cynhaliwyd y gynhadledd flynyddol yng Nghanolfan Antur Awyr Agored Gilwern ar ddydd Gwener, 20fed Hydref. Roedd plant ym mlwyddyn 6 yn cynrychioli ysgolion cynradd ar draws Sir Fynwy gyda ffocws y gynhadledd yn canolbwyntio ar iechyd, lles, gweithgaredd corfforol ac arweinyddiaeth.
Drwy gydol y dydd, bu’r Llysgenhadon Ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai – megis mentora eu cyfoedion, siarad cyhoeddus, ac ymgynghoriadau disgyblion – yn ogystal â sesiynau ymarferol a gyflwynwyd gan bartneriaid allanol. Ers 2017, mae mwy na 5,300 o ddisgyblion wedi cymryd rhan yn rhaglen ‘playmaker’ blwyddyn 5, gyda mwy na 350 wedyn yn mynd ymlaen i gynrychioli eu hysgol yn rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd blwyddyn 6. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i chydnabod fel arfer gorau, bellach yn cael ei hailadrodd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gan roi llwyfan i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau arwain drwy chwaraeon.
Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd yn ddechrau’r daith i lawer o bobl ifanc gyda phedair academi arweinyddiaeth wedi’u sefydlu ar draws holl ysgolion cyfun Sir Fynwy. Mae’r academïau arweinyddiaeth yn parhau i ymgorffori negeseuon a osodwyd yn y rhaglen ac yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gefnogi gweithgaredd corfforol yn eu hysgol a’u cymuned leol, tra’n ennill profiad gwirfoddoli hanfodol. Mae llwybr clir wedi’i sefydlu i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a chael cyfleoedd cyflogaeth drwy’r llwybr i gyflogaeth ôl-16.
Yn ogystal â’r llysgenhadon ifanc, roedd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, Meirion Howells, a’r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Angela Sandles, yn bresennol ar y diwrnod hefyd.
Dywedodd y Cyng. Sandles: “Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd yn arf mor bwysig i hyrwyddo manteision chwaraeon, gweithgaredd corfforol a byw’n iach. Braf oedd gweld cymaint o bobl ifanc brwdfrydig yma yng Ngilwern heddiw. Roeddynt yn mwynhau’r gweithgareddau g ac i’w gweld yn elwa o’r diwrnod. Edrychaf ymlaen at weld sut mae ein Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu heddiw i helpu i ledaenu negeseuon cadarnhaol am les yn ôl yn eu hysgolion.” Am fwy o wybodaeth am raglenni Datblygu Chwaraeon, neu i gysylltu â’r tîm, e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk