Helena Williams - Monlife - Page 2

Cyngor Sir Fynwy yn cynnal Cynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth

Mynychodd 60 o ddisgyblion o Gynllun Academi Arweinyddiaeth Cyngor Sir Fynwy Gynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ar ddydd Gwener, 8fed Mawrth.

Derbyniodd y llysgenhadon ifanc, a ddaeth o’r pedair ysgol uwchradd yn y sir, hyfforddiant arweinyddiaeth a sgyrsiau ysbrydoledig i’w helpu gyda’u gwaith gwirfoddoli yn eu hysgolion a’u cymunedau.

Buont yn cymryd rhan mewn gweithdai i ddatblygu eu sgiliau ymhellach a chawsant gyfle i rwydweithio â llysgenhadon eraill a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Cynhaliodd partneriaid amrywiol o’r sector weithdai, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, a gyflwynodd weithdy ar ‘Rôl yr Arweinydd Ifanc’ – gyda Gemau Stryd yn cyflwyno sesiwn ar ‘Llais Ieuenctid ac Ymgynghori’. Nod y rhain oedd ymrymuso’r llysgenhadon ifanc i weithio’n agos gyda’u cyfoedion a helpu i lunio rhaglenni gweithgareddau corfforol.

Rhannodd Amber Stamp Dunstan o MonLife ei phrofiad o ymuno â’r llwybr arweinyddiaeth a dod yn aelod llawn o staff tra hefyd yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru. Cymerodd y llysgenhadon ifanc ran hefyd mewn dadl yn dilyn sesiwn ar gyfathrebu. O dan arweiniad Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy, rhoddodd hyn gyfle i’r bobl ifanc rannu eu barn ar y rhaglen arweinyddiaeth a sut y gallwn barhau i’w gwella wrth symud ymlaen.

Roedd cynhadledd yr Academi Arweinyddiaeth yn cyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. I nodi’r achlysur, siaradodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, am ei phrofiadau drwy gydol ei gyrfa ddisglair i nodi’r achlysur.

Group of people holding their hands in a heart shape.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae gallu dod â’n llysgenhadon ifanc ynghyd yn Neuadd y Sir yn wych. Bydd clywed a gweld pawb yn ymgysylltu â’i gilydd a dysgu o brofiadau gwahanol yn caniatáu i’r bobl ifanc datblygu eu sgiliau arwain ymhellach. Roedd clywed gan Amber a’r Prif Gwnstabl Pam Kelly ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ysbrydoliaeth. Diolch am rannu eich profiadau gyda’r llysgenhadon ifanc.”

I ddysgu mwy am yr Academi Arweinyddiaeth neu i ddarganfod sut y gallwch chi neu’ch plant gymryd rhan, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/


Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy yn llwyddo yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024

Mae Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy wedi ennill gwobr ‘Nofio Ysgolion a Diogelwch yn y Dŵr’ yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024.

Yn dilyn y gwobrau a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr, llwyddodd Adran Chwaraeon a Hamdden MonLife i ennill y wobr yn dilyn 2023 gwych. Nod y rhaglen yw sicrhau bod nofio mewn ysgolion yn hygyrch i gynifer o blant â phosibl ledled Sir Fynwy, cydweithrediad rhwng ysgolion a hamdden i ddarparu sgiliau bywyd hanfodol.

Yn 2023, roedd 100% o ysgolion Cynradd ac Uwchradd Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn rhaglen nofio MonLife. Daeth dros 3500 o blant i ddilyn Fframwaith Nofio Ysgol. Arweiniodd y rhaglen at gynnydd o 12.5% yn nifer y disgyblion a enillodd Wobr Nofio Ysgol ym mlwyddyn 6, gyda dros 62% o ddisgyblion yn cyflawni deilliannau’r cwricwlwm erbyn i’w cyfnod yn yr ysgol gynradd ddod i ben.

Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais mawr ar ddiogelwch yn y dŵr, ac yn ystod Wythnos Atal Boddi, cafodd pawb a fynychodd wers atal boddi bwrpasol. Ategwyd hyn ymhellach gan y sesiwn benodol am Ddiogelwch yn y Dŵr a roddwyd i’r sawl a fu’n cymryd rhan yn eu sesiwn gyntaf.

Cabinet Member for Equalities and Engagement, Cllr Angela Sandles with students from Magor Church in Wales Primary School at their school swimming lesson.
Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng. Angela Sandles gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr yn eu gwers nofio

Mae’r rhaglen hefyd wedi galluogi myfyrwyr Academi Arweinyddiaeth MonLife i gael profiad o weithio mewn digwyddiadau chwaraeon. Yn nhymor yr haf 2023, bu myfyrwyr yr Academi Arweinyddiaeth yn cynorthwyo staff MonLife i gynnar pedair Gŵyl Nofio ar gyfer Ysgolion Cynradd. Roedd 345 o blant wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cynhwysol. Roedd gwyliau yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn caniatáu i ddisgyblion gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau hwyl heb orfod cystadlu, gan gynnwys fflotiau, strociau a rasys woggle.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein Hadran Chwaraeon a Hamdden, hyfforddwyr nofio ac athrawon ysgol. Mae’n rhoi mynediad i ddysgwyr i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol iddynt fyw bywyd gweithgar a sgiliau a all achub bywydau. Llongyfarchiadau a diolch i’r holl staff sy’n cynnal ac yn cefnogi’r rhaglen.”


Cynigion ar gyfer Gofodau Natur Cymunedol yn y Fenni

Bydd Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy, y mae Cyngor Sir Fynwy yn ei chynnal, yn cyflwyno’r Prosiect Gofodau Natur Cymunedol yn y Fenni y gaeaf hwn a’r gwanwyn nesaf, yn dilyn prosiectau tebyg yn Nhrefynwy a Chas-gwent.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gofynnwyd i drigolion a rhanddeiliaid rannu eu barn ar syniadau ar gyfer gwella’r ardal. Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol, gyda’r syniadau bellach yn cael eu datblygu’n ddyluniadau terfynol. Gallwch nawr roi adborth ar y dyluniadau cyn i unrhyw waith ddechrau.

Yr wyth safle yn y Fenni a fydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yw:

• Major’s Barn / Man Chwarae Underhill

• Parc Croesenon

• Dan y Deri (Ynysoedd Gwyrdd)

• Dan y Deri (mannau gwyrdd CSF)

• Yr Orsaf Fysiau

• Ardal Chwarae St Helen’s Close/Union Road

• Ymyl Ffordd Rhan Isaf Monk Street 

• Clos y Parc

Mae’r safleoedd hyn wedi’u dewis ar sail ymatebion a dderbyniwyd yn ystod camau cyntaf yr ymgynghoriad a lle bydd natur a phobl yn elwa fwyaf.

Mae trigolion, busnesau, a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i ymweld â thudalen we Gofodau Natur Cymunedol i weld y dyluniadau a rhannu eu hadborth erbyn 19 Ionawr, 2024. Nod y Cyngor yw parhau i reoli a gwella mannau gwyrdd y tu hwnt i’r prosiect hwn ac mae’n croesawu syniadau am feysydd yn eich ardal chi y gellid eu hystyried yn rhan o gynlluniau’r dyfodol. I roi adborth neu rannu eich syniadau ar ofodau natur cymunedol, e-bostiwch localnature@monmouthshire.gov.uk

Nod y Prosiect Gofodau Natur Cymunedol, a gefnogir gan gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, yw gwella ein mannau gwyrdd ar gyfer natur a helpu i gefnogi cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles. Gellir gwneud hyn mewn amrywiol ffyrdd, megis plannu coed, ychwanegu gwelyau uchel ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned, ac ehangu’r gwaith o blannu blodau gwyllt ar gyfer peillwyr. Byddant yn lleoedd i ddod yn agos at natur a bod yn egnïol.

I ddarganfod mwy, ewch i: https://www.monlife.co.uk/outdoor/green-infrastructure/gi-and-nature-projects/community-nature-spaces/consultation-community-nature-spaces/

E-bostiwch ni – localnature@monmouthshire.gov.uk


MonLife yn cynnal Dathliad Nadolig ar gyfer Gwirfoddolwyr gwerthfawr

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yng ngwasanaethau MonLife ac maent yn hanfodol i gymunedau lleol. Maent yn helpu swyddogion i gyflwyno cyfleoedd a digwyddiadau i drigolion Sir Fynwy.

Ar ddydd Mercher, 13eg Rhagfyr, cynhaliodd MonLife Ddathliad Gwirfoddolwyr y Nadolig yn y Neuadd Sirol, Trefynwy. Roedd y digwyddiad yn caniatáu gwirfoddolwyr o wahanol feysydd gwasanaeth i gwrdd a rhannu eu profiadau gwerthfawr tra hefyd yn caniatáu i ni ddiolch i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith o fewn MonLife.

Mae pobl o bob oed yn gwirfoddoli gyda MonLife am resymau gwahanol, gan gynnwys ennill profiad, magu hyder, mwynhau eu hunain, neu helpu eraill a’u cymuned. Mae llawer o wirfoddolwyr wedi mynd ymlaen i weithio amser llawn o fewn gwasanaethau Cyngor Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Rwyf am ddiolch i’n holl wirfoddolwyr anhygoel sy’n cyfrannu at ein gwaith ar draws y Cyngor. Roedd gweld cymaint yn Neuadd y Sir i ni ddiolch iddynt yn wych. Mae gwirfoddolwyr wedi cael effaith eleni, nid yn unig mewn gwerth economaidd ond hefyd ar lefel gymunedol, gan ddarparu cefnogaeth i’n gwasanaethau MonLife a helpu gyda digwyddiadau ar draws yr hyn y mae MonLife yn ei ddarparu. Os ydych am gael profiad mewn maes penodol, cwrdd â phobl newydd, neu helpu ni wasanaethu’r gymuned, edrychwch ar yr opsiynau gwirfoddoli sydd ar gael.”

Rhwng Ebrill a Medi 2023, cymerodd 282 o wirfoddolwyr ran mewn 32 o gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys datblygu chwaraeon, Theatr Borough, gweithio yng nghefn gwlad a’n amgueddfeydd. Cyfrannodd y gwirfoddolwyr hyn gyfanswm o 6,289 o oriau, sydd â gwerth economaidd amcangyfrifedig o fwy na £85,000. 

Pan fyddwch yn gwirfoddoli, gallwch gael mynediad at raglen hyfforddi lawn, rhaglen gynefino gyflawn, ‘cyfaill’ penodedig a’n gwefan Volunteer Kenetic ar-lein. Byddwch hefyd yn cael mynediad rheolaidd at gymorth 1-2-1 neu grŵp a chyfle i gwrdd â phobl newydd o’ch ardal ac ar draws y sir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gallwch ddarganfod mwy yma: https://www.monlife.co.uk/connect/volunteering/ 


Angen Aelodau newydd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Eagle's Nest Viewpoint
Golygfan Nyth yr Eryrod

Mae Cyngor Sir Fynwy yn recriwtio aelodau newydd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy.

Mae’r Fforwm Mynediad Lleol yn cynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill ar wella hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd yn Sir Fynwy.

Swyddi gwirfoddol yw’r rhain i roi cyngor ar faterion mynediad i gefn gwlad a helpu i gefnogi gwelliannau i fynediad lleol.

Er bod aelodau’n cael eu penodi’n bersonol, yn unol â’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad o gael mynediad i gefn gwlad, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ddarpar aelodau sydd â chysylltiadau rhagorol a gweithredol â sefydliadau, partneriaethau a grwpiau diddordeb lleol perthnasol.

Mae’r Fforwm yn ceisio cydbwyso buddiannau tirfeddianwyr a rheolwyr tir, pob math o ddefnyddwyr mynediad a’r rhai sy’n cynrychioli buddiannau eraill, megis iechyd, mynediad i bawb a chadwraeth. Rydyn ni’n edrych am aelodau gydag arbenigedd a diddordebau eang, gall cefnogi ymrwymiad Cyngor Sir Fynwy i wella mynediad i gefn gwlad.

Mae’r Fforwm yn rhan o ofynion Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i gynghori ar wella mynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhad o’r ardal ac i gynghori a chynorthwyo gyda gweithredu’r Cynllun Gwella Mynediad i Gefn Gwlad. Mae’n cynnwys rhwng 12 a 22 o aelodau. Penodir aelodau am dair blynedd. Fel arfer cynhelir cyfarfodydd bob chwarter.

Mae gwybodaeth bellach a ffurflen gais ar gael ar y wefan https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/countryside-access/ neu cysylltwch gyda countryside@monmouthshire.gov.uk

Mae angen ffurflenni wedi’u llenwi erbyn 12fed Ionawr 2024.


The Strangglers yn Cyhoeddi Sioe Haf Fyw Arbennig yn Dathlu 50 Mlynedd yng Nghastell Cil-y-coed

Rhannu blwyddyn Aur ar gyfer The Stranglers a Chil-y-coed yn ennill statws fel tref

A’r Buzzcocks fel gwesteion arbennig – Dydd Sadwrn 8fed Mehefin 2024

Tocynnau ar werth o 10am ar ddydd Gwener 1af Rhagfyr

https://myticket.co.uk/artists/the-stranglers

Mae’r Eiconau pync/roc o Brydain, The Stranglers, yn dathlu eu hanner canmlwyddiant drwy gyhoeddi perfformiad byw arbennig yr haf nesaf yng Nghastell Cil-y-coed, ar ddydd Sadwrn 8fed Mehefin. Gan rannu eu hanner canmlwyddiant gyda Chil-y-coed yn dathlu 50 mlynedd ers derbyn statws fel tref, bydd hwn yn ddathliad euraidd disglair na fydd Cil-y-coed byth yn ei anghofio. The Stranglers yw un o’r bandiau sydd wedi goroesi hiraf ac maent yn tarddu o’r sîn bync ym Mhrydain, ac maen nhw’n dod â’u sioe haf arbennig i ddathlu eu pen-blwydd yn 50 oed gyda’u ffrindiau, Buzzcocks, hefyd yn ymuno â nhw ar y noson.

Gan ddathlu eu gyrfa arloesol yn y diwydiant, sy’n ymestyn dros bum degawd anhygoel, bydd The Stranglers yn tanio Cymru wrth iddynt ddod â’u catalog helaeth o ganeuon yn fyw yn y perfformiad unigryw hwn. Gan ddewis cefndir canoloesol anhygoel Castell Cil-y-coed fel eu llwyfan, a gyda’r awyr serennog agored yng ngolau’r lleuad, mae hwn yn argoeli i fod yn berfformiad ysblennydd a bythgofiadwy na fydd cefnogwyr pync eisiau ei golli.

“Mae wedi bod yn 50 mlynedd, ac am daith pync gynddeiriog mae cerddoriaeth The Stranglers wedi’i chael,” meddai’r band, “Mae yna gatalog mor eang ac amrywiol o ganeuon rydyn ni eisiau eu rhannu gyda phawb, ac felly fe fyddwn ni yn dewis y traciau gorau i berfformio’n fyw ar y noson. Byddwn yn bloeddio’r clasuron pync/roc hynny, o dan awyr Cymru a waliau Castell Cil-y-coed yn edrych drostyn nhw, ac mae’n mynd i fod yn brofiad arbennig i ni gyd. A byddwn yn chwifio’r faner dros Gil-y-coed hefyd, gan ei bod yn dathlu hanner can mlynedd ers ennill statws fel tref, ac felly mae’n argoeli i fod yn noson arbennig i ni a’r dref, a byddwn yn dathlu gyda chi. Noson i’w chofio i bawb un. Ni’n methu aros.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’n wych gweld Castell Cil-y-coed unwaith eto yn denu bandiau eiconig i berfformio yma. Edrychwn ymlaen at groesawu’r Stranglers a’r Buzzcocks i’n sir wych ac yn arbennig i Gastell Cil-y-coed, lleoliad prydferth ar gyfer unrhyw gyngerdd. Am ffordd i ddathlu pen-blwydd Cil-y-coed yn 50 fel tref!”

Tocynnau ar werth o 10am ar ddydd Gwener 1af Rhagfyr

https://myticket.co.uk/artists/the-stranglers

The Stranglers

The Stranglers (Official)

https://thestranglers.co.uk/embed/#?secret=wZqoXDAzEq#?secret=H0lhyJ6Gkp

https://www.facebook.com/thestranglers/

https://www.instagram.com/stranglersofficial

https://www.youtube.com/channel/UC9nz7lwupHQIIcZwq1mmewg

Buzzcocks

http://www.buzzcocks.com/

https://www.facebook.com/buzzcocksofficial/

Mae The Stranglers yn fand roc Saesneg a ddaeth i’r amlwg drwy’r sîn pync-roc. Gyda 23 cân o fewn y 40 sengl gorau yn y DU ac 19 albwm o fewn y 40 albwm gorau yn y DU a gyrfa sy’n ymestyn dros bum degawd, mae’r Stranglers yn un o’r bandiau sydd wedi goroesi hiraf i darddu yn y byd pync yn y DU.

Wedi’u ffurfio fel y Guildford Stranglers yn Guildford, Surrey, yn gynnar yn 1974, gwnaethant ennill ganmoliaeth  o fewn golygfa roc tafarn ganol y 1970au. Er bod eu hagwedd ymosodol, di-gyfaddawd wedi’u huniaethu gan y cyfryngau â’r sîn pync-roc a oedd yn dod i’r amlwg yn y DU, nid oeddynt yn dilyn unrhyw genre cerddorol unigol, ac aeth y grŵp ymlaen i archwilio amrywiaeth o arddulliau cerddorol, o don newydd, roc celf a roc gothig trwy soffisti-pop rhai o’u hallbwn o’r 1980au. Cawsant lwyddiant prif ffrwd mawr gyda’u sengl ym 1982 ‘Golden Brown’. Mae eu llwyddiannau eraill yn cynnwys ‘No More Heroes’, ‘Peaches’ ‘Skin Deep’ ‘Always the Sun’ a ‘Big Thing Coming’.

Mae’r Buzzcocks  yn cynnwys y cantor-gyfansoddwr-gitarydd band pync Seisnig Pete Shelley a’r canwr-gyfansoddwr Howard Devoto a ffurfiwyd yn Bolton yn 1976. Yn ystod eu gyrfa, cyfunodd y band elfennau o roc pync, pop pŵer, a pop pync. Cawsant lwyddiant gyda senglau sy’n asio crefftwaith pop ag egni pync cyflym; casglwyd y senglau hyn yn ddiweddarach ar Singles Going Steady, a ddisgrifydd gan y newyddiadurwr a’r beirniad cerddoriaeth Ned Raggett fel “campwaith pync”.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Samantha Giannini,
Kilimanjaro Live  Ffôn: 07932 820952  e-bost: sam.giannini@kilimanjarolive.co.uk


Mae Grantiau Gwella Mynediad ar gael nawr

Amanda Harris in Chepstow during her epic journey along the Wales Coast Path. Credit @amandascoastalchallenge
Amanda Harris yng Nghas-gwent yn ystod ei thaith epig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Credyd @amandascoastalchallenge

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer dau gynllun Grant Gwella Mynediad newydd gyda’r nod o wella mynediad i atyniadau ymwelwyr Sir Fynwy neu ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr.

Ariennir y ddau gynllun grant o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Y cyntaf yw Cynllun Cefnogi Gwella Mynediad i Ddigwyddiadau, sy’n cynnig grantiau refeniw o hyd at £5,000 i ymgeiswyr sydd am wella mynediad mewn digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr a/neu gynnig gweithgareddau cynhwysol newydd mewn digwyddiadau yn Sir Fynwy.

Yr ail yw Cynllun Grant Cyfalaf Gwella Mynediad, sy’n cynnig grantiau cyfalaf o hyd at £25,000 i sefydliadau yn Sir Fynwy sy’n ceisio gwella mynediad at atyniadau a digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr.

Bydd ceisiadau ar gyfer y ddau gynllun grant yn cael eu hasesu rhwng nawr a diwedd Rhagfyr 2024 (pan fydd y cynllun yn cau) neu cyn hynny os dyrennir yr holl gyllid.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’r grantiau hyn yn rhoi cyfle gwych i wella hygyrchedd digwyddiadau ac atyniadau yn Sir Fynwy er budd pawb, boed nhw yma am ddiwrnod, wythnos neu oes. Byddwn yn annog unrhyw sefydliad sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais.”

Mae’r cynlluniau grant yn rhan o brosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin ehangach Llywodraeth y DU i ddatblygu Sir Fynwy fel cyrchfan i bawb. Mae gweithgareddau arfaethedig eraill yn cynnwys datblygiadau i wella hygyrchedd gwefan y gyrchfan, www.VisitMonmouthshire.com  a chyngor a hyfforddiant arbenigol i fusnesau twristiaeth ar fynediad a chynwysoldeb.

Gallwch ddarllen mwy am gynlluniau grant newydd a’r meini prawf cymhwyster yma:www.visitmonmouthshire.com/destination-management/access-improvement-grants

Monmouthshire County Council Cabinet Member for Equalities and Engagement Cllr. Angela Sandles
elod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles


Cyfleusterau chwaraeon newydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed

Photo on the new MUGA at Caldicot Leisure centre.  Cllr Jackie Strong, Cllr I R Shillabeer, Caldicot Town Council, Chair of Monmouthshire County Council Cllr Meirion Howells, Cabinet Member for Education Cllr Martyn Groucutt, Joe Killingley, Caldicot Leisure Centre Manager and Jack Harris, Community and Sport Development Officer.
Cyng Jackie Strong, Cyng I R Shillabeer, Cyngor Tref Cil-y-coed, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy y Cyng Meirion Howells, Aelod Cabinet dros Addysg Cyng  Martyn Groucutt, Joe Killingley, Rheolwr Canolfan Hamdden Cil-y-coed a Jack Harris, Swyddog Datblygu Cymunedol a Chwaraeon.

Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy agoriad swyddogol o gyrtiau pêl-fasged, pêl-rwyd a thenis newydd Canolfan Hamdden Cil-y-coed ar ddydd Iau, 1af o Dachwedd.

Bydd y safle defnydd deuol yn darparu ar gyfer diwallu anghenion y cwricwlwm, gyda’r ysgol uwchradd ar y safle ac ysgolion cynradd clwstwr lleol, yn ogystal â’r defnydd cymunedol gyda’r nos ac ar benwythnosau, a hynny diolch i’r llifoleuadau bylbiau LED newydd uwchben y cyrtiau. Gellir archebu lle drwy’r wefan, ap neu yn y dderbynfa yn y ganolfan hamdden.

Mae Canolfan Hamdden Cil-y-coed yn ganolfan wych i lawer o glybiau, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Yn ogystal â’r cyrtiau defnydd deuol newydd sydd â chylchoedd pêl-fasged newydd sbon y gellir addasu eu huchder, sy’n darparu ar gyfer pob oed a gallu, gall ymwelwyr gael mynediad i gae 3G gyda llifoleuadau (cymeradwywyd gan FIFA), maes Astroturf maint llawn, neuadd chwaraeon amlbwrpas, ystafell ffitrwydd, cyrtiau sboncen a phwll nofio 20m. Er mwyn dysgu mwy am y ganolfan hamdden, ewch i https://www.monlife.co.uk/monactive/caldicot-leisure-centre/

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Bydd y cyrtiau newydd sy’n agor yn swyddogol heddiw yn chwarae rhan hanfodol wrth ganiatáu i ddisgyblion lleol, grwpiau ieuenctid, trigolion a’r gymuned ehangach i fyw bywyd gweithgar, iachus drwy gydol y flwyddyn. Ni allaf aros i weld pawb yn elwa o’r cyfleuster newydd anhygoel hwn.”

Cabinet Member for Equalities and Engagement Cllr Angela Sandles Joe Killingley, Caldicot Leisure Centre manager on the new improved Basketball court at Caldicot Leisure Centre
Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy Cllr Angela Sandles gyda Joe Killingley, Rheolwr Canolfan Hamdden Cil-y-coed ar y cwrt pêl-fasged newydd.


Hwyl Arswydus i’r teulu cyfan yn Sir Fynwy’r hanner tymor hwn

Mae hanner tymor bron yma a hydref eleni bydd llu o hwyl i’r teulu i’w fwynhau ar hyd a lled Sir Fynwy.

O nofio i grefftau, pêl-droed i rywbeth arswydus, bydd rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau yn ystod wythnos hanner tymor yr hydref (30 Hydref – 5 Tachwedd).

Mae MonLife yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau i gadw’ch plant bach yn brysur yn ystod hanner tymor.

Bydd nofio, pêl-droed a bydd Gemau Sir Fynwy yn dychwelyd.

Yn ystod hanner tymor, bydd MonLife yn cynnal sesiynau Chwarae Gweithredol AM DDIM yng nghanolfannau hamdden y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed a Threfynwy. Mae’r rhaglen ‘Chwarae’ yn 1 awr a 55 munud, lle gellir gadael plant 5-11 oed gyda’n gweithwyr chwarae hynod hyfforddedig a phrofiadol, a dewis o amrywiaeth o weithgareddau i’w chwarae gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd.

Bydd MonLife hefyd yn cynnal sesiynau Aros a Chwarae am ddim yn ystod hanner tymor, lle gall plant a theuluoedd ddewis yn rhydd o lawer o weithgareddau gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd. Nodwch fod angen goruchwyliaeth gan rieni ar gyfer plant dan 11 oed!

Yng Nghastell Cil-y-coed, gall ymwelwyr fwynhau amser hyfryd Calan Gaeaf eleni gyda chyfres o sesiynau un-awr sy’n addas i deuluoedd.

Bydd crefftau a gemau Calan Gaeaf yn y neuadd wledda, ac yna llwybr pwmpen brawychus bwgan brain drwy ein cwrt a’r tyrau.

Mae Hen Orsaf Tyndyrn yn cynnig pethau mwy brawychus, lle gall plant fwynhau llwybr pwmpen arswydus, gwneud mygydau Calan Gaeaf, a gweithgareddau crefft.

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ôl ym mis Hydref eleni, gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig ar gyfer pob oedran mewn amgueddfeydd ar draws ein safleoedd. Mae amgueddfeydd Y Fenni, Cas-gwent a’r Neuadd Sirol hefyd yn dathlu ysbryd y cyfnod gyda digwyddiadau crefft Calan Gaeaf – does dim angen archebu lle. Hefyd, beth am gael hwyl gyda ffrindiau a theulu yn ein prynhawn crefft hanner tymor i blant, dan arweiniad Gwirfoddolwyr creadigol Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife, Dydd Iau 2 Tachwedd 2-4pm, Y Neuadd Ymarfer, Stryd yr Eglwys Isaf, Cas-gwent.

Ymunwch â ni yng nghlybiau ieuenctid Y Parth, Cil-y-coed neu’r Caban, Y Fenni ar gyfer ein Partïon Calan Gaeaf rhwng 4-9pm ddydd Mawrth 31ain Hydref. Mae’r rhain yn sesiynau agored i bobl ifanc fynychu gyda gweithgareddau Calan Gaeaf ar thema 11+ oed

Cymerwch olwg aderyn o’r bodau dynol mewn sioe deuluol newydd sbon gan M6 Theatre yn Theatr y Fwrdeistref yr hanner tymor hwn. Yn llawn dwli, caneuon gwreiddiol a chwarae cysgodion hardd, mae’r sioe hynod gorfforol hon yn defnyddio ychydig iawn o iaith i adrodd stori am gymryd gofal, darganfod beth sy’n bwysig a dysgu sut i hedfan.


Ysbrydoli arweinwyr y dyfodol i ddod yn Llysgenhadon Ifanc mewn cynhadledd flynyddol

Mae plant ysgol Sir Fynwy wedi cael eu hysbrydoli i ddod yn arweinwyr drwy chwaraeon, a hynny ar  i’r Gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd ddychwelyd.

Cynhaliwyd y gynhadledd flynyddol yng Nghanolfan Antur Awyr Agored Gilwern ar ddydd Gwener, 20fed  Hydref. Roedd plant ym mlwyddyn 6 yn cynrychioli ysgolion cynradd ar draws Sir Fynwy gyda ffocws y gynhadledd yn canolbwyntio ar iechyd, lles, gweithgaredd corfforol ac arweinyddiaeth.

Drwy gydol y dydd, bu’r Llysgenhadon Ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai – megis mentora eu cyfoedion, siarad cyhoeddus, ac ymgynghoriadau disgyblion – yn ogystal â sesiynau ymarferol a gyflwynwyd gan bartneriaid allanol. Ers 2017, mae mwy na 5,300 o ddisgyblion wedi cymryd rhan yn rhaglen ‘playmaker’ blwyddyn 5, gyda mwy na 350 wedyn yn mynd ymlaen i gynrychioli eu hysgol yn rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd blwyddyn 6. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i chydnabod fel arfer gorau, bellach yn cael ei hailadrodd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gan roi llwyfan i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau arwain drwy chwaraeon.

Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd yn ddechrau’r daith i lawer o bobl ifanc gyda phedair academi arweinyddiaeth wedi’u sefydlu ar draws holl ysgolion cyfun Sir Fynwy. Mae’r academïau arweinyddiaeth yn parhau i ymgorffori negeseuon a osodwyd yn y rhaglen ac yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gefnogi gweithgaredd corfforol yn eu hysgol a’u cymuned leol, tra’n ennill profiad gwirfoddoli hanfodol.  Mae llwybr clir wedi’i sefydlu i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a chael cyfleoedd cyflogaeth drwy’r llwybr i gyflogaeth ôl-16.

Yn ogystal â’r llysgenhadon ifanc, roedd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, Meirion Howells, a’r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Angela Sandles, yn bresennol ar y diwrnod hefyd.

Dywedodd y Cyng.  Sandles: “Mae’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Efydd yn arf mor bwysig i hyrwyddo manteision chwaraeon, gweithgaredd corfforol a byw’n iach. Braf oedd gweld cymaint o bobl ifanc brwdfrydig yma yng Ngilwern heddiw. Roeddynt yn mwynhau’r gweithgareddau g ac i’w gweld yn elwa o’r diwrnod. Edrychaf ymlaen at weld sut mae ein Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu heddiw i helpu i ledaenu negeseuon cadarnhaol am les yn ôl yn eu hysgolion.” Am fwy o wybodaeth am raglenni Datblygu Chwaraeon, neu i gysylltu â’r tîm, e-bostiwch  sport@monmouthshire.gov.uk