Astudiaeth achos: Pêl-droed Cerdded yn Sir Fynwy
Amcan:
Datblygu a darparu cyfleoedd i ddynion a menywod 40 oed a hŷn gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon cerdded er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol.
Gweithredu:
Trwy sesiynau blasu cychwynnol a blociau o sesiynau, dechreuodd y niferoedd gynyddu yn fuan a ffurfiwyd grwpiau cymdeithasol i gefnogi nid yn unig y gweithgaredd corfforol ond i ddatblygu cyfeillgarwch. Cynhaliwyd twrnamaint cyfeillgar tair ffordd rhwng ein Canolfan Hamdden Cil-y-coed, Sir Casnewydd a Thref Merthyr i ddarparu’r profiad cystadleuol cyntaf i’r chwaraewyr, ac roedd hyn yn llwyddiant gwych.
Bu clwb Pêl-droed Cerdded Cil-y-coed, mewn partneriaeth â’r tîm datblygu chwaraeon lleol yn cynnal eu twrnamaint pêl-droed cerdded eu hunain ym mis Hydref 2019, gyda dros 10 tîm yn cymryd rhan o bob rhan o’r DU a channoedd o chwaraewyr yn bresennol.
O ganlyniad i’r llwyddiant yng Nghil-y-coed, aeth y tîm Datblygu Chwaraeon â’r ymgyrch ymlaen wedyn i Gas-gwent. Fe wnaeth 10 o bobl gymryd rhan yn y sesiwn gyntaf, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn aelodau drwy atgyfeiriad Meddygon Teulu yn ein canolfannau hamdden.
Mae datblygiad pêl-droed cerdded yng Nghas-gwent wedi bod yn ddylanwadol i nifer, ac o ganlyniad mae wedi arwain at y tîm yn rhedeg eu twrnamaint eu hunain ym mis Chwefror. Mae ganddynt uchelgeisiau hefyd i ddechrau eu Clwb Pêl-droed Cerdded Cas-gwent eu hunain, gan efelychu’r hyn sydd wedi’i sefydlu yng Nghil-y-coed.
Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon hefyd wedi dechrau camau cyntaf ehangu’r fenter pêl-droed cerdded i ogledd y sir, gyda’r cynlluniau cychwynnol o ddechrau hyn yng nghanolfan hamdden y Fenni a Threfynwy dros gyfnod yr haf. Mae gan y tîm hefyd uchelgeisiau o greu twrnamaint yn y gaeaf rhwng y pedwar safle Canolfan Hamdden.
Canlyniadau
Ers mis Mai 2019, mae Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy wedi datblygu a darparu cyfleoedd i ddynion a menywod 40+ oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o gampau cerdded, mae ein heffaith fwyaf amlwg wedi dod drwy Bêl-droed Cerdded. Mae pêl-droed cerdded yn Sir Fynwy wedi gweld effaith enfawr yn 2019. Nid yn unig roedden ni’n gweld effaith gadarnhaol ar lefelau gweithgarwch corfforol, gwelsom ostyngiad mewn unigrwydd cymdeithasol.
Mae pêl-droedwyr cerdded Cil-y-coed bellach wedi datblygu i fod yn glwb cysylltiedig, a chydnabyddedig, sydd wedi eu galluogi i ddechrau ymuno â chynghrair pêl-droed cerdded Cymru a thwrnameintiau lleol, yn ogystal â derbyn grant cist gymunedol ddiweddar. Mae’r clwb hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn twrnameintiau cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae ganddo 3 chwaraewr fel rhan o dîm cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â hyn, yn ystod mis Mawrth 2020, mae’r clwb yn gweithio mewn partneriaeth â Mind Sir Fynwy i gynnal mis Iach a Gweithredol, a fydd yn ei dro yn gweithio fel codwr arian i’r elusen er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol. Rydym wedi gweld 83 o oedolion yn cymryd rhan mewn pêl-droed cerdded, gyda’r niferoedd yn parhau i gynyddu bob wythnos.
This post is also available in: English