Amdanom Ni
Mae MonLife yn rhan o Gyngor Sir Fynwy ac mae’n darparu addysg hamdden, ieuenctid ac awyr agored, seilwaith gwyrdd a chefn gwlad, twristiaeth, rheoli cyrchfannau, celfyddydau, amgueddfeydd ac atyniadau.
Rydym yn darparu gwasanaethau hamdden o 4 safle yn Sir Fynwy ac yn cynnig gweithgareddau awyr agored ar ein safle yng Ngilwern. Mae gennym 7 safle sy’n ymgorffori ein hatyniadau a’n hamgueddfeydd, sydd hefyd yn hyrwyddo gwybodaeth am dwristiaeth ac yn cynnig rhai o’r adeiladau mwyaf trawiadol gyda diddordeb hanesyddol a gweithgareddau i ymgysylltu â phob oedran. Mae ein gwasanaeth Mynediad Cefn Gwlad yn goruchwylio rhwydwaith mawr o safleoedd mynediad cefn gwlad er mwyn darparu profiadau awyr agored i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd, tra bod ein gwasanaeth ieuenctid yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc ar draws Sir Fynwy.
Yn 2019-20 roedd gan MonLife drosiant uniongyrchol blynyddol o £8.51m ac incwm o £6.42m, yn ogystal â 136 o staff cywerth ag amser llawn a thua 197 o wirfoddolwyr gweithredol. Mae’n gweithio ar y cyd â nifer fawr o sefydliadau gan gynnwys clybiau a chymdeithasau lleol (tua 356 o bartneriaethau) er mwyn sicrhau bod y profiadau gorau posib yn cael eu darparu i gwsmeriaid a chymunedau.
Bydd MonLife yn gweithredu fel teulu o wasanaethau sy’n dibynnu ar ei gilydd ar gyfer hyrwyddo, cefnogi a gweithredu gorau posibl. Fel casgliad o wasanaethau, maent yn helpu i leoli Sir Fynwy fel lle gwych i fyw, gweithio, chwarae ac ymweld â hi. Maent hefyd yn chwarae rhan sylweddol wrth lunio’r amgylchedd, gan atal y galw a fyddai fel arfer yn gofyn am ymyrraeth gan wasanaethau statudol costus, ac mae pob un yn gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y sir.
CENHADAETH:
Hybu bywydau iachach a phrofiadau sy’n ysbrydoli, a hybu egni Sir Fynwy fel lle arbennig i fod.
GWELEDIGAETH:
Cyfoethogi bywydau pobl a chreu lleoedd llewyrchus.
AMCANION:
Cyfoethogi bywydau pobl drwy gyfranogiad a gweithgaredd. Creu lleoedd a chymunedau cadarn a llewyrchus yn Sir Fynwy.
This post is also available in: English