Dathlu’r Nadolig yn Hyb Cil-y-coed
Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy ddigwyddiad dathlu yng Nghil-y-coed i roi sylw i’r holl waith da a wneir yn llyfrgelloedd yr ardal.
Hyb Cymunedol Cil-y-coed oedd lleoliad Dathliad Nadolig eleni.
Ddydd Iau 12 Rhagfyr, cynhaliodd y cyngor ddigwyddiad ar gyfer y gymuned ac aelodau’r llyfrgell, a gefnogwyd gan Gyfeillion y Llyfrgell.
Rhoddodd y dathliad blynyddol sylw i wasanaethau llyfrgell y sir – a chadarnhau’r ffaith fod llawer mwy na dim ond llyfrau yn eich llyfrgell leol. Mae Hybiau Sir Fynwy yn wasanaeth gyda ffocws ar y gymuned.
Cafwyd adloniant cerddorol gan Glybiau Canu Cas-gwent a Brynbuga, gyda detholiad o ganeuon Nadoligaidd – modern a thraddodiadol. Rhoddodd aelodau staff hefyd darlleniadau perthnasol i’r ŵyl.
Dywedodd y Cyng Angela Sandles, Aelod Cabinet Cydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Ein llyfrgelloedd yw conglfaen ein cymunedau yn Sir Fynwy. Maent yn rhoi cymaint mwy na llyfrau i ni, mae hyn yn cynnwys gliniaduron i’w benthyg, lle i gwrdd, lle i astudio a dysgu, lle i gael cyngor a hefyd wrth gwrs i gynnal digwyddiadau cymdeithasol gwych tebyg i hwn.
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i werthfawrogi a defnyddio popeth y mae ein Hybiau a llyfrgelloedd a’r staff ynddynt yn ei gynnig i holl breswylwyr Sir Fynwy.”
This post is also available in: English