Dweud eich dweud ar ein Prosiectau Seilwaith Gwyrdd
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned a thrigolion i ddatblygu gwelliannau mannau gwyrdd ar gyfer natur a phobl trwy Grid Gwyrdd Gwent a Phartneriaethau Natur Lleol.
Eleni, mae’r ffocws ar wella mannau gwyrdd yn y Goetre, Llanofer, Brynbuga, Llangybi, a Rhaglan, ynghyd â safleoedd dethol yn Llandeilo Bertholau, Y Fenni a Threfynwy.
Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r dyluniad ac wedi darparu cyllid ar gyfer cyflawni’r mentrau ymarferol hyn ar draws 15 o safleoedd.
Mae Seilwaith Gwyrdd yn cwmpasu creu a rheoli mannau gwyrdd bywiog, gan gynnwys prosiectau fel plannu coed brodorol, rheoli dolydd a choetir, a sefydlu cynefinoedd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, gan gynnwys pyllau a gwlyptiroedd.
Rydym yn awyddus i glywed gan gymunedau lleol a gwahodd trigolion i rannu eu barn ar welliannau bioamrywiaeth arfaethedig. Mae’r Cyngor wedi ymgynghori â chynghorau cymuned ac wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus, ond mae adborth pellach yn hanfodol.
Gall trigolion gymryd rhan drwy ymweld â gwefan Monlife a chwblhau holiadur byr cyn y dyddiad cau, sef hanner nos, sef dydd Gwener, 17eg Ionawr, 2025.
Cymerwch ran heddiw yma: www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure/gi-and-nature-projects/green-corridor-infrastructure-project/
Mae coridorau gwyrdd a mannau gwyrdd cydgysylltiedig yn llwybrau hanfodol i fywyd gwyllt, gan gynnig cysgod a bwyd wrth gysylltu tirweddau mwy o amgylch ein hardaloedd trefol. Wrth i fannau trefol ddod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt, nod y Cyngor yw datblygu cynefinoedd brodorol sy’n cefnogi bioamrywiaeth.
Bydd dyluniadau arfaethedig ar gyfer y mannau gwyrdd yn ategu eu defnydd presennol tra’n sicrhau manteision niferus, gan gynnwys ecosystemau cydnerth, llesiant cymunedol gwell, lliniaru newid yn yr hinsawdd, gwell ansawdd aer, storio carbon, datrysiadau rheoli llifogydd a mwy o fynediad i fyd natur.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, bwysigrwydd mewnbwn trigolion: “Bydd y arlowg yma i gael well dealltwriaeth o beth mae pobl eisau o rhan corridor gwyrdd yn eu ardaloedd. Rwy’n annog pawb i ymweld â thudalen Prosiect Seilwaith y Coridor Gwyrdd a Monlife a rhannu eich adborth. Bydd eich cyfraniadau yn gyrru’r prosiectau hyn yn eu blaenau.”
I gael rhagor o wybodaeth am y meysydd ffocws ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure/gi-and-nature-projects/green-corridor-infrastructure-project/
This post is also available in: English