Digwyddiad Dathlu Natur a Bwyd Cynaliadwy yn rhoi sylw i gydweithio ac arferion cynaliadwy – Monlife

Digwyddiad Dathlu Natur a Bwyd Cynaliadwy yn rhoi sylw i gydweithio ac arferion cynaliadwy

Ddydd Gwener 27 Medi cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy ddathliad yn Neuadd y Sir, Brynbuga, yn rhoi sylw i’w waith mewn natur a bwyd cynaliadwy.

Daeth y digwyddiad ag ymarferwyr adfer natur a chynhyrchu bwyd lleol ynghyd i arddangos eu gwaith a meithrin cydweithio yn y dyfodol.

Fel rhan o’r dathliad, cymerodd myfyrwyr o ddosbarthiadau 3 a 4 Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Brynbuga ran mewn gweithgareddau seiliedig ar beillio a chanu eu cân Peillwyr.

Wrth agor y digwyddiad tanlinellodd y Cyng Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, ymroddiad y cyngor i gynlluniau eco-gyfeillgar: “Fel cyngor, rydym yn gweithio’n ddiwyd gyda phartneriaid o reoli tir cynaliadwy a’r economi bwyd lleol i liniaru effaith newid hinsawdd yma yn Sir Fynwy.

“Rhyngom, gallwn ddefnyddio yr arbenigedd a rannwn i wneud mwy ac mae’r cyngor yn falch i eistedd wrth y bwrdd a bod yn rhan o’r sgwrs am y pwnc hollbwysig yma.”

Drwy gydol y dydd cafodd gwesteion gyfle i fwynhau cyfres o sgyrsiau diddorol gan Sam Bosanquet, Dan Smith, Derrick Jones a Damon Rees. Cafodd gwesteion hefyd gyfle unigryw i gymryd rhan wrth greu panel Sir Fynwy o’r Bio-dapestri a gaiff ei greu gan Grid Gwyrdd Gwent, gan ddangos ymhellach ysbryd gydweithiol y digwyddiad.

Gwahoddodd y Cyng Brocklesby y rhai oedd yn bresennol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus sy’n mynd rhagddo ar Gynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol a Strategaeth Seilwaith Gwyrdd y Cyngor. Dywedodd: “Mae’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd yn nodi sut y byddwn ni fel cyngor yn gweithio i leihau’r effaith ar newid hinsawdd. Rydym eisiau cysylltu gyda chynifer o bartneriaid a phreswylwyr ag sy’n bosibl i gydweithio i wneud newidiadau cadarnhaol yn ein sir.”

Mae mwy o wybodaeth am y strategaeth a sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael yn:

https://www.monlife.co.uk/outdoor/green-infrastructure/local-nrap-and-gi-strategy-consultationTags: MonmouthshirenewsUsk

This post is also available in: English