Paentiad ysbrydoledig Turner yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Cas-gwent
Mae llun dyfrlliw pwysig o Gastell Cas-gwent a beintiwyd gan JMW Turner ym 1794 wedi’i ddadorchuddio yn amgueddfa’r dref. Mae’r gwaith, o’r enw ‘Castell Cas-gwent ar Afon Gwy, Sir Fynwy Cymru’ bellach yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn Amgueddfa Cas-gwent er mwyn i drigolion ac ymwelwyr ei edmygu. Mae’r paentiad atgofus yn cael ei arddangos fel rhan o arddangosfa, Taith Gwy, mewn oriel bwrpasol.
Cafodd y llun dyfrlliw ei wneud ym 1794, a’i beintio pan oedd Joseph Mallord William Turner (1775-1851) yn 19 oed. Fe’i creodd ar ei daith gyntaf, a oedd yn daith i dde Cymru, pan oedd Cas-gwent yn fan galw cyntaf iddo ar ôl croesi’r Hafren. Yr olygfa hon o’r castell a glan yr afon yw’r un a fuasai yn ei gyfarch.
Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet dros Gymunedau Gweithgar a Byw:
“Mae cael mynediad y tu allan i ddinas fawr i ddarn o waith gan artist mor bwysig yn bwysig iawn. Wrth ddod â chelf yn ôl i ffynhonnell ei hysbrydoliaeth, rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i gymunedau ac ymwelwyr werthfawrogi a chael eu hysbrydoli gan y gweithiau celf hyn. Maent yn dathlu’r treflun yn ogystal â thirwedd Dyffryn Gwy. Rwy’n annog pawb i ymweld â’r arddangosfa hon sy’n rhad ac am ddim, ac mae’n olwg hynod ddiddorol ar wyneb newidiol yr ardal.”
Mae Amgueddfa Cas-gwent wedi bod yn adeiladu ei chasgliad o weithiau celf gwreiddiol o Ddyffryn Gwy gan artistiaid o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif gyda chefnogaeth y Gronfa Grant Prynu a weinyddir gan y V&A, y Gronfa Gelf, Cymynrodd Beecroft ac yn strategol gyda Chynllun Casglu Diwylliannau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn canolbwyntio ar Daith Gwy. Ariannwyd y gwaith o brynu dyfrlliw Turner gan y sefydliadau hyn, gyda chefnogaeth y Gronfa Caffael Amgueddfeydd.
Roedd Taith Gwy yn fordaith i lawr yr Afon Gwy o Rhosan i Gas-gwent. Daeth ag artistiaid, awduron a thwristiaid cynnar i’r ardal a oedd yn cael eu denu gan ei golygfeydd prydferth a’i hadfeilion rhamantus. Roedd ar ei hanterth rhwng 1770 a 1850, y cyfnod a oedd yn cyd-daro â datblygiad mawr dyfrlliwiau. Mae wedi bod yn brif ffocws i waith casglu gweithgar Amgueddfa Cas-gwent am y 15 mlynedd diwethaf ac mae wedi dod â gweithiau arwyddocaol gan artistiaid pwysig y cyfnod ynghyd.
Mae casgliadau amgueddfeydd Sir Fynwy hefyd wedi dod yn ffynhonnell o ddelweddau i awduron, newyddiadurwyr a gwneuthurwyr ffilmiau sy’n chwilio am ddarluniau o Ddyffryn Gwy a Thaith Gwy. Y gobaith yw y bydd yn ei dro yn parhau i ysbrydoli ymwelwyr i ddod i Gas-gwent a Dyffryn Gwy i weld y golygfeydd yma drostynt eu hunain, a’r gweithiau celf yn Amgueddfa Cas-gwent.
Mae arddangosfa Taith Gwy ar agor bob dydd rhwng 11am a 4pm (ac eithrio ar ddydd Mercher) a bydd yno tan ddydd Sul 17eg Rhagfyr, 2023 yn Amgueddfa Cas-gwent. I gael rhagor o wybodaeth am amgueddfeydd Sir Fynwy, ewch i www.monlife.co.uk/heritage/
This post is also available in: English