Mae prosiectau Gwent gyfan yn dod yn ail yng Ngwobrau’r Sefydliad Tirwedd
Roedd Natur Wyllt Gwent a Thîm Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent wedi mynychu Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd ar 24ain Tachwedd.
Roedd y tîm yn ail yn y ddau gategori lle’r oeddynt ar y rhestr fer, a hynny ymhlith nifer o geisiadau cenedlaethol a rhanbarthol. Y categori cyntaf oedd Ardderchowgrwydd mewn Cadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth ar gyfer un o brosiectau Natur Wyllt a’r ail gategori oedd Partneriaeth a Chydweithredu a oedd yn cydnabod gwaith eithriadol a wnaed i’r tirwedd fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.
Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yw un o’r digwyddiadau mwyaf yn y diwydiant, sy’n dathlu pobl, lle a natur, a’r nifer o ffyrdd y gall prosiectau tirwedd eu cydgysylltu. Mae’n dathlu gofodau y gall pobl fod yn wirioneddol falch ohonynt, a bu cyfanswm o dros 200 o geisiadau eleni, gan gynnwys 53 gan gystadleuwyr rhyngwladol.
Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn gydweithrediad rhanbarthol arloesol newydd sy’n ceisio gwella a datblygu “Seilwaith Gwyrdd”; term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol a mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n plethu a chysylltu ein pentrefi, trefi a dinasoedd yn ogystal â helpu i gefnogi cyfleoedd am swyddi o fewn yr ardal. Mae gan Seilwaith Gwyrdd rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â natur, newid yn yr hinsawdd, iechyd ac argyfyngau economaidd.
Mae’r prosiect Natur Wyllt yn sefydlu gwaith rheoli mannau gwyrdd cydgysylltiedig i greu cynefinoedd pryfed peillio llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent – Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen – fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent. Mae Natur Wyllt yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd peillwyr, y camau y gallwn i gyd eu cymryd i’w cefnogi, a sut y gall y rhain gael effaith gadarnhaol ar faterion pwysig eraill megis lleihau’r dirywiad mewn bywyd gwyllt a lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd,: “Rydym yn gyffrous iawn bod Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a phrosiect Natur Wyllt wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yn Llundain, gan gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu ar raddfa genedlaethol. Mae’r ddau ddull yn hanfodol wrth ddiogelu a gwella ein tirweddau arbennig, datblygu seilwaith gwyrdd a helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a heriau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn ffodus o allu gweithio gyda gweithwyr sydd mor broffesiynol ac mor ardderchog, yn ogystal â thirwedd mor syfrdanol.”
Cefnogir y prosiectau hyn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig, ac fe’i darperir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am beth mae’r prosiectau hyn yn ei wneud, yna dilynwch y dolenni hyn:
Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent: Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent – MonLife
Natur Wyllt Natur Wyllt – Sir Fynwy
This post is also available in: English