Hoffem glywed eich barn ar y rhestr o opsiynau posibl sydd wedi’u cynllunio i wella cysylltiadau teithio llesol rhwng y Bont Deithio Llesol newydd arfaethedig ar draws Afon Gwy a Wyesham.
Rydym yn argymell eich bod yn gweld y cynlluniau ac yn darllen y dudalen hon yn gyntaf i ddarganfod mwy am y cynllun.
Mae’r llwybr o Wyesham i ganol tref Trefynwy yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan drigolion, plant (yn teithio i ac o ysgolion), twristiaid ac ymwelwyr. Mae’r cyfleusterau presennol i gerddwyr fodd bynnag yn gyfyngedig, tra nad oes cyfleusterau beicio o gwbl. Mae cysylltiadau yn ardal yr astudiaeth wedi methu’r archwiliadau teithio llesol a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy ym mis Medi 2020. Wrth i gynigion ar gyfer Pont Deithio Llesol Gwy ddod i’r amlwg, mae pwysigrwydd cysylltu cysylltiadau teithio llesol o’r ardaloedd cyfagos i ac o’r bont newydd wedi ei amlygu.
Tri amcan y cynllun hwn yw:
Mae prosiectau fel yr un yma fel arfer yn mynd yn eu blaen dros sawl blwyddyn o’r cysyniad hyd at ddylunio manwl ac yna maent yn ddibynnol ar gymeradwyaeth arian gan gyrff fel Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu. Ar hyn o bryd rydym mewn cyfnod cynnar o’r broses ddylunio. Bydd
Bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei ddewis yn seiliedig ar sawl agwedd, gan gynnwys canlyniadau ymgynghori cyhoeddus, opsiwn medru cyflawni (lle bydd perchnogaeth tir yn chwarae rhan allweddol), goblygiadau cost, a pherfformiad opsiwn yn erbyn amcanion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, uchelgeisiau a blaenoriaethau.
Oherwydd maint ardal yr astudiaeth, mae’r llwybr wedi ei rannu’n ddwy adran, fel y disgrifir isod.
Opsiwn 1: yn cynnig lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol yr A466 a’r A4136 i ddarparu troedffordd/llwybr beicio a rennir oddi ar y ffordd o’r Bont Deithio Llesol i Heol Wyesham a gyflawnir drwy gulhau ychydig i lawr y ffordd gerbydau a chefnogaeth strwythurol arglawdd. Byddai’r ddwy groesfan ynys lloches i gerddwyr sydd eisoes heb reolaeth yn cael eu disodli gan gyfleusterau croesi rheoledig. Byddai holl gyffyrdd ffordd yr ochr yn cael eu hail-gynllunio i ddarparu ar gyfer llwybr teithio llesol.
Opsiwn 2: fel Opsiwn 1 ond yn rhannol is na lefel y ffordd bresennol (rhwng Parc Glanyrafon a Heol Redbrook). Byddai llwybr yn cael ei rannu gan gerddwyr/beicwyr yn cychwyn o’r gyffordd â Pharc Glanyrafon ac yn rhedeg o dan lefel ffordd bresennol yr A466. Byddai ramp wedyn yn ei gysylltu â’r droedffordd bresennol (gan godi i fyny at lefel y droedffordd) gyferbyn â’r gyffordd â Heol Redbrook. Byddai’r droedffordd bresennol ar ochr deheuol yr A466 heb ei heffeithio.
Opsiwn 1: system unffordd tua’r dwyrain o Heol Wyesham (Mewn) /Rhodfa Wyesham (Allan), ar ôl cyffordd â Rhodfa Wyesham, byddai’r ffordd gerbydau yn dychwelyd i draffig dwy ffordd. Byddai troedffordd/llwybr beicio a rennir yn cael ei ddarparu ar ochr ddeheuol Heol Wyesham i Ysgol Gynradd Kymin View. Byddai lled y ffordd gerbydau ar Rodfa Wyesham yn cael ei leihau a’r llwybr troed yn cael ei ledu. Dim colli parcio ar Rodfa Wyesham. Potensial i gynnwys cysylltiadau o Rodfa Wyesham i Heol Wyesham y tu ôl i Eglwys Sant Iago a thrwy goetir cymunedol.
Opsiwn 2: yr un peth ag Opsiwn 1 ond Rhodfa Wyesham tua’r gorllewin (Mewn) / Heol Wyesham (Allan)
Opsiwn 3: cynnal traffig dwy ffordd gyda’r egwyddor strydoedd tawel yn berthnasol i Heol Wyesham a Wyesham Avenue. Mae ‘strydoedd tawel’ yn derm sydd yn cael ei roi i lwybrau seiclo trefol ar strydoedd cefn sydd â chyflymder isel a lefel isel o draffig, sydd yn addas iawn ar gyfer seiclwyr newydd a llai hyderus. Mae Heol Wyesham a Wyesham Avenue wedi eu clustnodi ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya, a fydd yn addas ar gyfer yr egwyddor strydoedd tawel. Bydd llwybr seiclo yn cael ei osod ar y ffordd, gyda symbolau seiclo yn cael eu defnyddio er mwyn dynodi’r llwybr a lle y dylid seiclo ar y cerbytffordd. Bydd llwybrau cerdded yn cael eu lledaenu os yn bosib ac ar gyfer cerddwyr yn unig. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys cysylltiadau o Wyesham Avenue i Heol Wyesham y tu nôl i Eglwys Sant Iago a thrwy’r coetir cymunedol. Mae yna botensial i gynnwys darn byr o Droedffordd a Rennir (Cerddwyr a Seiclwyr) o gyffordd Heol Wyesham gydag Wyesham Avenue i Ysgol Kymin View.
Strydoedd tawel – DE205: CLICIWCH YMA
Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â Phroses Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, datblygodd tîm y prosiect restr eang o ddatrysiadau posib, digon i allu penderfynu a oes unrhyw opsiynau cynllun gwerth eu dilyn ac i ddewis rhestr fer o opsiynau (fel y manylir uchod) i’w hystyried yn fanylach. Roedd yr opsiynau ar y rhestr fer yn seiliedig ar:
Llwybr Heol/Rhodfa Wyesham yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd i gysylltu Wyesham â thref Trefynwy ac mae’n ofynnol iddo gael ei gynllunio a’i adeiladu i gyd-fynd â’r Bont Deithio Llesol newydd. Yn anffodus, mae pob opsiwn i wella llwybr Heol Redbrook yn gofyn am brynu tir a strwythurau cadw sylweddol, a allai gymryd blynyddoedd i gytuno. Gallai hyn oedi’n sylweddol a hyd yn oed beryglu’r cynllun. Oherwydd hyn, mae adran Heol Redbrook wedi’i gwahardd o’r cynllun hwn a’n ffocws presennol ar lwybr Heol/Rhodfa Wyesham , a fydd yn cefnogi cyflwyno’r Bont Deithio Llesol newydd.
Rydym am glywed eich barn ar bob un o’r opsiynau. A fyddech gystal â nodi’r rhai sydd ar y rhestr fer. Gallwch fynegi eich meddyliau drwy glicio ar y ddolen arolwg isod.
A fyddech gystal ag annog aelodau eich cartref ac eraill i gynnal yr arolwg gan nad yw eich ymatebion o reidrwydd yn adlewyrchu barn pobl eraill.
Ar ôl cwblhau’r arolwg hwn, rydych yn cytuno i’r data hyn gael eu defnyddio at y diben hwn gan Gyngor Sir Fynwy a gan Gynllun Gofodol Cymru (RE&I).
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Fynwy ar ran Cynllun Gofodol Cymru (RE&I). Byddwn yn casglu eich data at y diben hwn yn unig a bydd unrhyw rannu data’n cael ei wneud yn ddienw. Nid yw’r ffurflen hon yn dal eich enw na’ch manylion cyswllt. Am fwy o wybodaeth am breifatrwydd ymwelwch â https://www.monmouthshire.gov.uk/your-privacy/
Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn cydsynio i’ch gwybodaeth gael ei phrosesu at y diben fel yr amlinellir uchod.
This post is also available in: English