Ydych chi rhwng 18 a 25 oed?
Rydym yn edrych am bobl frwdfrydig i’n helpu i wella’r ffordd yr ydym yn cynnwys pobl ifanc wrth lunio amgueddfeydd yn Sir Fynwy.
Fel rhan o gynllun Gaeaf llawn Lles Llywodraeth Cymru,
rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gaiff eu harwain gan bobl ifanc ar
gyfer pobl ifanc, rydym yn edrych am ddau person 18-25 oed ar gyfer prosiect
cyfnod cyfyngedig i gyfrannu at wella’r ffordd yr ydym yn cynnwys pobl ifanc
wrth lunio amgueddfeydd yn Sir Fynwy.
Bydd y lleoliadau hyn yn cael eu talu, ar gyfradd o
(£100/diwrnod), a gyllidir yn uniongyrchol gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac
Orielau Cymru (nid Cyngor Sir Fynwy). Cynhelir y lleoliadau hyn rhwng 9 a 31
Mawrth 2022.
Rhagwelwn y bydd pob lleoliad yn 9 diwrnod i gyd, wedi’u
lledaenu dros y cyfnod hwn (er y byddem yn ystyried llai o ddyddiau os na all
ymgeiswyr gyflawni i’r 9 diwrnod llawn). Bydd y lleoliadau yn gweithio’n agos
gyda Gwneuthurydd Rhaglen Gaeaf llawn Lles o Ffederasiwn Amgueddfeydd yng
Nghymru, fydd yn cydlynu’r prosiect gyda chefnogaeth gan amgueddfeydd Sir
Fynwy.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda’r tîm i:
- Ymgynghori gyda phobl ifanc, yn defnyddio dulliau fel gweithdai
a thrafodaethau wyneb i wyneb
- Casglu sylwadau a barn pobl ifanc yn Sir Fynwy am y
ffyrdd gorau i ymgynghori gyda nhw
- Casglu’r canfyddiadau i adroddiad fydd yn sail i gyflenwi
rhaglenni amgueddfeydd yn Sir Fynwy a sut y byddwn yn ymgysylltu â phobl ifanc
a’u cynnwys yn y broses yn y dyfodol
- Ymweliadau safle posibl i adolygu cynnig presennol
amgueddfeydd ar gyfer pobl ifanc.
Bydd y lleoliadau yn gyfle rhagorol i gael profiad
uniongyrchol gyda MonLife Treftadaeth, Ffederasiwn Amgueddfeydd yng Nghymru ac
Amgueddfa Cymru a datblygu sgiliau a phrofiad mewn ymgynghori gyda phobl ifanc.
Mae hyn yn ddechrau ymdrech tymor hirach i ddatblygu a
gwella’r gwasanaeth amgueddfeydd ar gyfer pobl ifanc. Gobeithiwn y bydd y
prosiect yn gosod sylfeini ar gyfer sefydlu Panel Ieuenctid, i fwydo’r ffordd
yr ydym yn datblygu ac yn darparu ein gwasanaethau ar draws yr amgueddfeydd yn
Sir Fynwy.
Manyleb Person
Rydym yn edrych am unigolion gyda’r sgiliau, profiad a
diddordebau dilynol.
- Diddordeb mewn gwella mynediad a gwasanaethau cynhwysol
ar gyfer pobl ifanc (hanfodol)
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da – gallu
addasu cynnwys ar gyfer gwahanol oedrannau (hanfodol)
- Trefnus, gyda’r gallu i reoli eich llwyth gwaith a’ch
amser eich hunan (hanfodol)
- Cyfeillgar, agos atoch ac yn dangos cydymdeimlad
(hanfodol)
- Diddordeb mewn clywed a chynrychioli amrywiaeth o leisiau
a barn pobl ifanc (hanfodol)
- Profiad o weithio fel rhan o dîm bach (dymunol)
- Diddordeb mewn dulliau newydd a chreadigol i ennyn diddordeb
pobl ifanc, yn cynnwys defnyddio technoleg a chyfryngau cymdeithasol (dymunol)
- Profiad o hwyluso trafodaethau neu weithdai (wyneb i
wyneb ac ar-lein) (dymunol)
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc a grwpiau ieuenctid
(11-25 oed) (dymunol)
- Profiad mewn gwerthuso, ymchwil gymdeithasol neu
ymgynghori (dymunol)
- Diddordeb yn y sector treftadaeth (dymunol)
Mae’r cyfle ar gael i unrhyw un rhwng 18 a 25 oed. Fodd
bynnag, mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn clywed gan ymgeiswyr nad ydynt
mewn cyflogaeth lawn-amser ar hyn o bryd ac sy’n dymuno ymchwilio gwahanol
lwybrau gyrfa.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV (gydag enw dau ganolwr) atom ynghyd â datganiad
diddordeb, dim mwy na 500 gair, ar sut ydych yn ateb prif gyfrifoldebau a
disgwyliadau’r proffil rôl yma erbyn diwedd dydd Llun 7 Mawrth at rachaelrogers@monmouthshire.gov.uk .
Byddwn yn penodi i’r swydd cyn gynted
ag sy’n bosibl ar ôl y dyddiad hwn a bydd cyfarfod cyflwyno yn ystod wythnos y
7 Mawrth
DS: Rhagwelwn y bydd 9 diwrnod o waith fesul person sy’n
rhaid ei wneud rhwng 7 a 31 Mawrth. Mae rhai dyddiau penodol o weithio o fewn y
cyfnod hwn, sef:
Dydd Mercher 9 Mawrth – dydd Gwener 11 Mawrth (cynhwysol)
– dim dyddiau llawn
Gyda’r nos yn ystod yr wythnos yn cychwyn 14 Mawrth – I’w
gadarnhau
Dydd Gwener 25 Mawrth
Dydd Mercher 30 NEU dydd Iau 31 Mawrth – i’w
gadarnhau
Gadewch i ni wybod yn eich cais os gwelwch yn dda os nad
ydych ar gael ar rai o’r dyddiadau hyn, neu os na allwch ymrwymo i’r 9 diwrnod
llawn.
Gaeaf llawn Lles
Caiff y lleoliadau hyn eu hariannu drwy raglen Gaeaf llawn
Lles Llywodraeth Cymru, cynllun ar draws Cymru i helpu plant a phobl ifanc i
gael adferiad o’r pandemig a mynd i’r gwanwyn yn teimlo’n well, wedi cysylltu’n
well gydag eraill ac yn barod am ddechrau newydd.
Dylid nodi nad yw Cyngor Sir Fynwy yn rhoi taliad am leoliadau.
Fodd bynnag bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i dderbyn taliad dan y
rhaglen Gaeaf llawn Lles. Bydd hyn yn gytundeb rhwng y lleoliadau a Ffederasiwn
Amgueddfeydd ac Orielau Cymru a chaiff unrhyw geisiadau ariannol eu gwneud ar
ôl cwblhau’r gwaith rhwng y ddau barti ac NID Cyngor Sir Fynwy.
Cadwch lygad am weithgareddau Gaeaf llawn Lles eraill
ledled Cymru a chael y diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd drwy Instagram (@bloedd_ac), Twitter (@AmgueddfaCymru), TikTok (amgueddfacymru) a Facebook (@amgueddfacymru). #winterofwellbeing
#gaeafllawnlles
Are you 18 to 25 years old?
We are looking for enthusiastic people to help us improve the way we involve young people in shaping museums in Monmouthshire.
As
part of the Welsh Governments Winter of Wellbeing, a programme of youth-led
events and activities for young people, we are looking for two 18 – 25 year
olds for a limited time project to contribute to improving the way we involve
young people in shaping museums in Monmouthshire.
These
placements are paid, at a rate of (£100/day), funded directly by the Federation
of Museums and Galleries of Wales (Not Monmouthshire County Council). They will
take place between 9th and 31st March 2022.
We
anticipate each placement being 9 days in total, spread over this period
(though we will consider fewer days if applicants are unable to commit to the
full 9 days). The placements will be working closely with a Winter of Wellbeing
Programme Maker from the Federation of Museum in Wales, who will co-ordinate
the project with support from Monmouthshire museums.
What
will I be doing?
The
role will involve working with the team to:
- Consult
with young people, using methods such as workshops and face to face discussions
- Collect
the thoughts and opinions of young people in Monmouthshire about the best ways
to consult with them.
- Compile
the findings into a report which will inform future delivery of museum
programmes in Monmouthshire and how we engage and include young people in the
process.
- Possible
site visits to review Museum’s current offer for young people
The
placements will be an excellent opportunity to gain experience directly with MonLife
Heritage, The Federation of Museums in Wales and Amgueddfa Cymru- National
Museums of Wales and develop skills and experience in youth consultation.
This
is the start of a longer-term effort to develop and improve the museum service
for young people. We hope that the
project will lay the groundwork for establishing a Youth Panel, to feed into
the way we develop and deliver our service across the museums in Monmouthshire.
Person Specification
We
are looking for individuals with the following, skills, experience, and
interests.
- An
interest in improving access and inclusivity of services for young people (essential)
- Good
written and spoken communication skills- able to adapt content for different
ages (essential)
- Organised,
with the ability to manage your own workload and time (essential)
- Friendly,
approachable, and empathetic (essential)
- An
interest in hearing and representing a diversity of voices and opinions of
young people (essential)
- Experience
working as part of a small team (desirable)
- An
interest in new and creative approaches to engaging with young people,
including use of tech and social media (desirable)
- Experience
facilitating discussions or workshops (face to face and online) (desirable)
- Experience
working with young people and youth groups (11-25) (desirable)
- Experience
in evaluation, social research or consultation (desirable)
- An
interest in the heritage sector (desirable)
This
opportunity is open to anyone aged between 18 and 25 years. However, we are particularly interested to
hear from applicants who are not currently in full time paid employment and
wish to explore different career paths.
How
to apply
Please
send us your CV (with names of two referees) and an expression
of interest, maximum 500 words, on how you meet the main responsibilities and
expectations of the role profile by end of Monday 7th March to rachaelrogers@monmouthshire.gov.uk . We will appoint the roles as soon as possible
after this date and there will be an introductory meeting during the week of 7th March.
NB:
We anticipate there will be 9 days work per person which must be carried out
between 7th and 31st March. Within this period there are some fixed days
of working, they are:
Wednesday
9th March – Friday 11th March (inclusive) – not full days
Some
evenings during w/c 14th March – TBC
Friday
25th March
Wednesday
30th OR Thursday 31st March – TBC
If
you are not available on some of these days, or not able to commit to the full
9 days, please let us know in your application.
Winter
of Wellbeing
These
placements are funded through the Welsh Government’s Winter of Wellbeing programme,
a cross-Wales bid to help children and young people recover from the pandemic
and head into spring feeling better, more connected to others and ready for a
new start.
Please
note that Monmouthshire County Council does not provide payment for
placements. However the successful
applicants are eligible to receive payment under the Winter of Wellbeing
Programme. This will be an agreement
between the placements and the Federation of Museums and Galleries of Wales and
any financial claims will be made on completion of the work between the two
parties NOT Monmouthshire County Council.
Look
out for other Winter of Wellbeing activities across Wales and stay up to date
with the latest goings on via Instagram (@bloedd_ac), Twitter (@AmgueddfaCymru), TikTok (amgueddfacymru) and Facebook
(@amgueddfacymru). #winterofwellbeing #gaeafllawnlles